Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 13/03/2019 i'w hateb ar 20/03/2019
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth
A wnaiff y Gweinidog amlinellu'r camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i annog mwy o fusnesau lleol yng Ngorllewin De Cymru i fanteisio ar bŵer deallusrwydd artiffisial?
A wnaiff y Gweinidog amlinellu sut y cafodd ystyriaethau amgylcheddol eu hystyried wrth ddatblygu cynllun gweithredu economaidd Llywodraeth Cymru?
Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo'r sector modurol?
Pa ddefnydd y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r modd o ganfod teithiau y rhai sy'n cymudo i Gasnewydd a Chaerdydd yn y car fel ffordd o lywio darpariaeth trafnidiaeth gyhoeddus yn y dyfodol?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fanteision canolbwyntio ar yr economi sylfaenol?
Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o'r effaith a gaiff trosglwyddo i gymdeithas ddigidol ar drigolion yn y canolbarth?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd tuag at roi llain galed ar hyd yr A55?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i adfywio economi Cwm Afan?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am rôl yr economi sylfaenol o ran helpu i fynd i'r afael â thlodi ym Merthyr Tudful a Rhymni?
Sut y bydd y Gweinidog yn gwerthuso gwaith Tasglu'r Cymoedd?
A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ar gynllun twf y gogledd o safbwynt parciau busnes?
Pa drafodaethau mae'r Gweinidog wedi eu cael â'r Gweinidog Cyllid am bwysigrwydd polisi caffael fel arf economaidd?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gau'r A465 yn ddiweddar rhwng y Rhigos a Glyn-nedd?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am fargeinion dinesig yng Ngorllewin De Cymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn edrych ar godi lefelau cyflogau yng Nghymru?
Y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith Brexit ar sector y celfyddydau yn Islwyn?
A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol roi'r wybodaeth ddiweddaraf am baratoadau Llywodraeth Cymru ar gyfer Brexit heb gytundeb?
Beth yw blaenoriaethau allweddol y Cwnsler Cyffredinol yn y cyfnod cyn Brexit?
Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda'r Gweinidog Addysg ynghylch dyfodol cymwysterau safonol yn Ewrop?
A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol roi diweddariad am ddyfodol cynlluniau sydd bron â chael eu cwblhau ac sydd ar hyn o bryd yn derbyn cyllid strwythurol yr UE?
Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o baratoadau Brexit llywodraeth leol yng Nghymru?
Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda'i swyddog cyfatebol yn Iwerddon ynghylch effaith unrhyw setliad Brexit ar fasnach gyda Chymru yn y dyfodol?
Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael ynghylch trefniadau i ddiogelu gwasanaethau iechyd a gofal rhag effaith Brexit heb gytundeb?
A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am gapasiti Llywodraeth Cymru i reoli'r broses o ymadael â'r UE heb gytundeb?
Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o gyhoeddiad Llywodraeth y DU na fydd unrhyw ffin ffisegol yn Iwerddon pe bai Brexit heb gytundeb yn digwydd?
Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o'r effaith a gaiff gadael yr UE ar amaethyddiaeth?
A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol roi'r wybodaeth ddiweddaraf am barodrwydd Cymru ar gyfer y posibilrwydd o adael yr UE heb gytundeb?
A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol amlinellu trefniadau ar gyfer gwiriadau tollau ar nwyddau sy'n dod i mewn i Gymru pe bai Brexit heb gytundeb yn digwydd?
A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am baratoadau Llywodraeth Cymru ar gyfer deddfwriaeth amaethyddol ar ôl Brexit?
Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o baratoadau Llywodraeth Cymru ar gyfer Brexit?