Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 15/03/2018 i'w hateb ar 20/03/2018
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
Yn dilyn ei daith ddiweddar i UDA, pa gynlluniau sydd gan y Prif Weinidog i annog y Cymry ar wasgar i ymgysylltu ymhellach?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bolisi Llywodraeth Cymru ar ansicrwydd bwyd yng Nghymru?
Pa gymorth pellach y gall Llywodraeth Cymru ei roi i addysg uwch yng Nghymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer dysgu rhan amser i oedolion?
Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella amseroedd aros ar gyfer apwyntiadau cleifion allanol mewn ysbytai yng Nghymru?
Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o Ddeddf Lobïo (Yr Alban) 2016, a sut y gellir rhoi trefniadau tebyg ar waith yng Nghymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am uwchraddio'r rhwydweithiau ffyrdd yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru'n gweithio i wella iechyd plant yng Nghymru?
A wnaiff y Prif Weinidog roi manylion y cyllid a ddyrennir i addysg yng Nghymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am argaeledd profion mp-MRI i gleifion yng ngogledd Cymru?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o gyflenwi addasiadau i dai yng Nghymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr angen am dai yng nghymoedd de Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am amseroedd ymateb ambiwlansys y GIG yng Nghanol De Cymru?
Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i gefnogi datblygu economaidd yng Nghasnewydd?
Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i gynyddu lefelau beicio yn y Rhondda?