Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 15/02/2024 i'w hateb ar 20/02/2024
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
Sut mae Llywodraeth Cymru yn cynyddu cyfleoedd prentisiaethau yn y canolbarth?
Pa gamau mae'r Llywodraeth yn eu cymryd i fynd i'r afael â thrais domestic?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau diogelwch safleoedd gwenwynig yn y de ddwyrain?
A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad ar ddeuoli adrannau 5 a 6 ffordd yr A465 Blaenau'r Cymoedd?
A yw Llywodraeth Cymru wedi cynnal asesiad effaith diweddar ar y cynllun ffermio cynaliadwy?
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi'r sector ynni adnewyddadwy ym Mhreseli Sir Benfro?
A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad ar ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gefnogi gofalwyr di-dâl?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi bobl sy'n dioddef o feigryn?
Pa asesiad mae'r Llywodraeth wedi ei wneud ynghylch a ydi cynlluniau i adeiliadu gorsafoedd nwy yn Arfon yn gydnaws â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda thiriogaethau tramor Prydain?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gapasiti'r grid trydanol yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y cymorth y bydd ffermwyr yn ei gael er mwyn cynnal safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig ar eu tir?