Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 15/01/2026 i'w hateb ar 20/01/2026
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i wella hygyrchedd ffyrdd i bobl anabl?
Pa gynnydd mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud tuag at sicrhau datganoli cyllid rheilffyrdd o Lywodraeth y DU?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar gefnogaeth Llywodraeth Cymru i fusnesau lletygarwch?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â'r argyfwng gofal mewn coridor?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fuddsoddiad Llywodraeth Cymru yn Nhaf Elái?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am rôl adeiladau llyfrgell o ran darparu gwasanaethau statudol ar y safle a buddion cymunedol ychwanegol yn Islwyn?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar ymateb Llywodraeth Cymru i adolygiad y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau o ddata iechyd meddwl yng Nghymru?
Pa ddadansoddiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i gynnal o effaith Dechrau'n Deg ar leihau tlodi plant yng Nghanol Caerdydd dros y 15 mlynedd diwethaf?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau diogelwch menywod a merched?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gynnal presgripsiynau am ddim?
A wnaiff y Prif Weinidog ddarparu diweddariad am raglen gyweirio y Llywodraeth i ddiogelu adeiladau yng Nghymru yn dilyn trasiedi tân Grenfell wyth mlynedd yn ôl?