Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 13/01/2021 i'w hateb ar 20/01/2021
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gyflwyno'r brechlyn COVID-19 yn ne-ddwyrain Cymru?
A wnaiff y Gweinidog amlinellu effaith y pandemig ar ddarparu gofal cartref gan y gwasanaethau cymdeithasol?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am nifer y cleifion yn Nwyrain De Cymru sy'n aros mwy na 36 wythnos rhwng triniaeth ac atgyfeiriad?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gyflwyno'r brechlyn i'r rhai sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol?
Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o unrhyw fylchau rhwng y cyflenwad o frechlynnau a'r capasiti i ddefnyddio'r brechiadau hynny yng Nghymru?
Pa fesurau sydd ar waith i sicrhau y gall ysbytai barhau i ddarparu gofal acíwt nad yw'n gysylltiedig â COVID-19?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyflwyno'r brechlyn yn Sir Gaerfyrddin?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynghylch cyflymder cyflwyno’r brechlyn yng Nghymru?
Beth yw dadansoddiad diweddaraf Llywodraeth Cymru o'r modd y darperir triniaeth canser yng Nghymru yn ystod y pandemig?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effaith COVID-19 ar gynlluniau recriwtio staff y GIG a staff gofal yn y dyfodol?
A wnaiff y Gweinidog gadarnhau faint o bobl sydd wedi cael dos cyntaf o’r brechiad COVID-19?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am flaenoriaethau nesaf Llywodraeth Cymru ar gyfer y gwasanaeth iechyd yng Nghanol De Cymru?
Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o sut mae pandemig y coronafeirws wedi cael effaith andwyol ar iechyd meddwl yng Nghymru?
Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith pandemig COVID-19 ar iechyd meddwl amenedigol yng Nghymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y ddarpariaeth o ofal iechyd meddwl yn Sir Gaerfyrddin?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cymorth iechyd meddwl sydd ar gael yng Ngorllewin De Cymru?
Pa fesurau sydd ar waith i gefnogi cleifion sydd â chyflyrau iechyd meddwl yn dilyn triniaeth COVID-19?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynghylch y ddarpariaeth o wasanaethau iechyd meddwl yng Ngogledd Cymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am lefel y cymorth iechyd meddwl a ddarperir i bobl Sir Benfro am y 12 mis nesaf?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi iechyd meddwl a llesiant teuluoedd y mae'r coronafeirws wedi effeithio arnynt?
Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o gapasiti gwasanaethau cleifion mewnol ym maes iechyd meddwl plant a'r glasoed yng Ngogledd Cymru?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella cymorth iechyd meddwl a llesiant i rieni newydd yng Nghymru?
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod pobl yn gwybod am y cymorth iechyd meddwl sydd ar gael iddynt yn ystod y pandemig presennol?