Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 12/11/2025 i'w hateb ar 19/11/2025
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar gynlluniau Llywodraeth Cymru i newid y rheol dreth 182 diwrnod ar gyfer llety gwyliau?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am yr effaith y mae gweithredu Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023 wedi'i chael ar gaffael yn Llywodraeth Cymru a gwasanaeth cyhoeddus Cymru?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar gynlluniau Llywodraeth Cymru i ddiwygio'r system ardrethu annomestig?
Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â datganoli'r gronfa ardoll agregau i Gymru?
Pa gynigion ar gyfer diwygio Fformiwla Barnett y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu eu cyflwyno i Lywodraeth y DU yn y cyfarfod ar y mater ym mis Chwefror 2026?
Pa asesiad y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o effaith polisïau treth Llywodraeth y DU ar bobl Sir Benfro?
Pa ystyriaeth a roddodd yr Ysgrifennydd Cabinet i sicrhau bod darparu prydau ysgol am ddim yn cael ei gefnogi wrth baratoi cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2026-27?
Pa ystyriaeth a roddodd yr Ysgrifennydd Cabinet i sicrhau y gall awdurdodau lleol ariannu gofal cymdeithasol yn briodol wrth baratoi cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2026-27?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet gadarnhau pa brosesau archwilio sydd ar waith i sicrhau gwerth am arian o arian Llywodraeth Cymru a ddyrennir i fusnesau?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar waith parhaus Llywodraeth Cymru i ddiwygio Fformiwla Barnett?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar effaith codiadau'r dreth gyngor ar gostau byw?
Pa ystyriaeth y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i roi i ddadansoddiad diweddar Canolfan Llywodraethiant Cymru o fframwaith cyllidol Cymru yn eu hadroddiad "A Decade On: Reforming Wales' Fiscal Framework"?
Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael â'r cynnydd mewn llygredd afonydd o safleoedd ôl-ddiwydiannol halogedig a achosir gan fwy o law a stormydd?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i wella ansawdd dŵr yn Afon Wysg?
Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael â'r effaith amgylcheddol a achosir gan feddyginiaethau a gaiff eu gwaredu?
A wnaiff Llywodraeth Cymru roi diweddariad ar y gwaith i ddiogelu dyfodol Camlas Sir Fynwy a Brycheiniog?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar weithredu Deddf Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli Nas Defnyddir (Cymru) 2025?
Beth yw asesiad diweddaraf yr Ysgrifennydd Cabinet o berfformiad amgylcheddol Dŵr Cymru?
Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i amddiffyn cymunedau yn ninas-ranbarth Bae Abertawe rhag llifogydd?
Pa gymorth y bydd Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i gymunedau y bydd llifogydd yn effeithio arnynt y gaeaf hwn?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i atal llifogydd yng ngogledd Cymru?
Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod asesiad effaith penodol i Gymru yn cael ei gynnal ar gyfer y diwygiadau treth etifeddiant arfaethedig ar ffermydd Cymru?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r sector bwyd a diod yng nghanolbarth Cymru?
Pa ystyriaeth y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi ei roi i gasgliadau ac argymhellion adroddiad y Pwyllgor Materion Cymreig: Farming in Wales in 2025?