Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 14/11/2024 i'w hateb ar 19/11/2024
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r safbwyntiau a fynegwyd gan gymunedau lleol ynghylch effaith y parc cenedlaethol newydd yng Nghymru?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi y diwydiant cyhoeddi?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi iechyd menywod?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i leddfu'r pwysau ar ganolfannau achub anifeiliaid anwes?
Beth yw dull gweithredu Llywodraeth Cymru o ran gwasanaethau adsefydlu iechyd meddwl yng Nghaerdydd?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am sut y bydd penderfyniad Llywodraeth y DU i gynyddu yswiriant gwladol cyflogwyr yn effeithio ar ofal iechyd yng Nghymru?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddiwygio gwasanaethau bysiau?
Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo twristiaeth yng nghymoedd y Rhondda?
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu dinasyddion Cymru sy'n cael eu heffeithio gan y rhyfel yn y Dwyrain Canol?
Sut y mae'r Llywodraeth yn gwella ac yn hyrwyddo iechyd a llesiant yn y gwasanaethau tân ac achub?
Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o sut mae'r ddyletswydd gonestrwydd wedi cael ei gweithredu gan holl sefydliadau'r GIG yng Nghymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yng ngogledd ddwyrain Cymru?