Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 14/11/2019 i'w hateb ar 19/11/2019
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad am wasanaethau trenau ar draws y gogledd?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gyfraddau rhoi organau yng Nghymru?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am bolisïau Llywodraeth Cymru ar gyfer cefnogi'r economi yn ne-ddwyrain Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu sut y mae'r blaenoriaethau economaidd a nodir yn y rhaglen lywodraethu yn cyflawni ar gyfer pobl ym Merthyr Tudful a Rhymni?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y ddarpariaeth gofal iechyd sylfaenol yng Nghymru?
Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella amodau gwaith i athrawon yng Nghymru dros y 12 mis nesaf?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod niferoedd digonol o welyau ysbyty ar gael ar gyfer misoedd y gaeaf?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am waith Canolfan Gymorth ACE yng Nghymru?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â TB Buchol?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru i ddatblygu economi Gogledd Cymru?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cryfhau gwasanaethau ysbytai yn y Rhondda?
Pa gynlluniau sydd gan y Prif Weinidog i adolygu sut yr ymchwilir i gwynion o dan y Cod Gweinidogol?
Cwnsler Cyffredinol
Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i ddarparu mewn perthynas â chytundebau y mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo iddynt?
Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda chydaelodau'r Cabinet ynghylch datblygu cynigion deddfwriaethol er mwyn helpu i leihau nifer y plant sy'n cael eu rhoi mewn gofal yng Nghymru?
Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cynnal ynglŷn â mynediad at gyfiawnder yng Nghymru?
Pa drafodaethau diweddar y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda swyddogion y gyfraith ynghylch canlyniad yr adolygiad barnwrol am y camdrafod honedig o ran codi oedran pensiwn y wladwriaeth i fenywod a anwyd yn y 1950au?