Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 12/10/2022 i'w hateb ar 19/10/2022
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Y Gweinidog Newid Hinsawdd
Pa gynlluniau sydd gan y Gweinidog i wneud parciau cenedlaethol yn fwy atebol i bobl leol?
Beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud i wella trafnidiaeth gyhoeddus yn Nwyrain De Cymru?
Pa mor llwyddiannus y mae Llywodraeth Cymru wedi bod o ran cael pobl allan o'u ceir ac ar drafnidiaeth gyhoeddus?
Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi ei wneud o ddigonolrwydd hawliau datblygu a ganiateir yng Nghymru?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddiogelwch adeiladau ymhellach i'w datganiad ysgrifenedig ar 7 Hydref?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am rôl cynghorau lleol o ran helpu Llywodraeth Cymru i gyrraedd ei thargedau ailgylchu?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau cyflenwad cynaliadwy o dai?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella diogelwch ynni yn Islwyn?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw waith sy'n cael ei wneud i fynd i'r afael â'r anghysondeb ar draws awdurdodau lleol o ran y trothwyon milltiroedd a ddefnyddir wrth ddarparu trafnidiaeth am ddim i'r ysgol, yn dilyn cyhoeddi'r adolygiad o'r Mesur Teithio gan Ddysgwyr ym mis Mawrth 2022?
A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad am y cymorth sydd ar gael i bobl yn Arfon yr effeithiwyd arnynt gan broblemau gyda chynllun Arbed 2?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn cydweithio â'r sector preifat i annog mwy o adeiladu tai yng Ngogledd Cymru?
Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Network Rail am wella dibynadwyedd trenau yng Nghymru?
Gweinidog yr Economi
Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â'r manteision posib o greu parthau buddsoddi trethi isel yng Nghymru?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i hyrwyddo prosiectau treftadaeth ffydd yng Ngogledd Cymru?
Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i hyrwyddo a gwella treftadaeth hanesyddol Casnewydd?
A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ynghylch y strategaeth arloesi i Gymru?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud o faint o byllau nofio allai orfod cau'r gaeaf hwn o ganlyniad i brisiau ynni cynyddol a'r argyfwng costau byw?
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael â'r diffyg yn y gweithlu a'r bwlch sgiliau yng Ngogledd Cymru?
Pa asesiad mae'r Gweinidog wedi ei wneud o sut mae lefelau buddsoddiad Llywodraeth y DU mewn cysylltedd digidol yn effeithio ar economi gogledd Cymru?
Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i fusnesau yn sgil chwyddiant a chynnydd mewn costau ynni?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i warchod yr economi yn Islwyn?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith economaidd polisïau ffyniant bro Llywodraeth y DU ym Mlaenau Gwent?
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Cwnsler Cyffredinol am gynnydd a'r amserlen a ragwelir ar gyfer dadansoddiad anghenion arfaethedig Llywodraeth Cymru ar gyfer prentisiaethau yn y sector cyfreithiol yng Nghymru?
Pa gefnogaeth all Llywodraeth Cymru ei ddarparu i fusnesau bach sy'n ei chael hi'n anodd y gaeaf hwn oherwydd yr argyfwng costau byw?