Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 14/10/2021 i'w hateb ar 19/10/2021
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ofynion coronafeirws ar gyfer teithwyr rhyngwladol o Gymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am rôl cynorthwywyr dysgu mewn ysgolion?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio ar draws sectorau i ddarparu cymorth iechyd meddwl i blant a phobl ifanc?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fuddsoddi ym Mlaenau'r Cymoedd?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y defnydd o faglau?
A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu'r cynnydd a wnaed o ran cynlluniau'r Llywodraeth i dreialu incwm sylfaenol cyffredinol?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddyfodol porthladd Caergybi?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effeithiolrwydd Cyfoeth Naturiol Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am wasanaethau llywio gofal yn etholaeth Caerffili?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i fynd i'r afael â llifogydd yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro?
Sut mae Llywodraeth Cymru'n cefnogi pobl ifanc sydd â phroblemau iechyd meddwl?
Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gydag Academi Heddwch Cymru ynghylch strategaethau rhyngwladol a pholisïau Llywodraeth Cymru?