Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 14/09/2023 i'w hateb ar 19/09/2023
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i fonitro effaith terfynau cyflymder 20mya diofyn ar amseroedd teithio?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gadwraeth adeiladau hanesyddol yng Nghymru?
A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad ar lywodraethu amgylcheddol yng Nghymru?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith yr argyfwng costau byw ar Gwm Cynon?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi cymunedau yn y Rhondda sydd wedi eu heffeithio gan leihad sylweddol mewn trafnidiaeth gyhoeddus leol?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â thwyllwybodaeth ar-lein?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i gefnogi gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddyfodol ffermio organig yng Nghymru?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gyflawni ei hymrwymiadau ynni adnewyddadwy?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r gwaith o ddatblygu cyfleusterau iechyd newydd yn Ne Clwyd?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod digon o seilwaith trafnidiaeth yng Ngogledd Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad ar fynediad at ofal iechyd yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro?