Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 12/09/2018 i'w hateb ar 19/09/2018
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella gwasanaethau i oroeswyr strôc yn ne-ddwyrain Cymru?
A wnaiff Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am argaeledd gwelyau yn y GIG yng Nghymru?
Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud o'r cynnydd a wnaed dros y chwe mis diwethaf i ddatrys problemau ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gyflwyno system Trawsgrifio Meddyginiaethau ac E-ryddhau ar draws holl ysbytai Cymru?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i fynd i'r afael â heriau recriwtio yn y GIG?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am hyrwyddo iechyd corfforol ymysg pobl ifanc?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am amseroedd rhwng atgyfeirio a thriniaeth yn y GIG?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am argaeledd gwasanaethau i gefnogi plant ag arthritis yng Nghanol De Cymru?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i annog pobl i gofrestru fel rhoddwyr mêr esgyrn i gefnogi'r rhai sydd angen trawsblaniad mêr esgyrn?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gynnydd tuag at sefydlu timau aml-ddisgyblaethol arbenigol i drin clefydau interstitaidd yr ysgyfaint ym mhob bwrdd iechyd lleol?
Sut y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn bwriadu gwella'r oedi o ran trafod cwynion yn y GIG i sicrhau yr ymdrinnir ag achosion yn ystod cyfnod targed safonol y GIG o 30 diwrnod?
Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cael gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus ar rôl cyrff gofal iechyd ym mhrosesau cynllunio awdurdodau lleol?
Pa bolisïau sydd gan Lywodraeth Cymru i leihau amseroedd aros ar gyfer diagnosis i gleifion canser?
Beth yw ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad blynyddol Iechyd Cyhoeddus Cymru o 2018 ar heintiau a drosglwyddir yn rhywiol?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y ddarpariaeth o bengliniau a reolir gan ficrobrosesyddion yng Nghymru?
Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau Llywodraeth Cymru i gyhoeddi canllawiau statudol newydd ar gyfer gwisgoedd ysgol?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gymorth i fyfyrwyr sy'n astudio dramor?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu'r cyngor am gau ysgolion gwledig y mae Llywodraeth Cymru'n ei ddarparu i awdurdodau lleol ar hyn o bryd?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y twf arfaethedig mewn addysg cyfrwng Cymraeg?
Beth y mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i ddiogelu ysgolion gwledig?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y ddarpariaeth o gyfleusterau chwarae mewn ysgolion lleol?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gyfraddau cyflog ar gyfer athrawon cyflenwi?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y ddarpariaeth o glybiau ar ôl ysgol? Trosglwyddwyd i'w ateb yn ysgrifenedig gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.
Beth y mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i hyrwyddo lles emosiynol mewn ysgolion?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd i sicrhau bod myfyrwyr yng Nghymru yn gallu cael mynediad at wybodaeth ar achrediad proffesiynol cyrsiau gradd?
Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i annog y gwaith o adeiladu ysgolion newydd yng Nghaerdydd?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y berthynas rhwng y Côd Trefniadaeth Ysgolion a chau ysgolion gwledig?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet egluro sut y mae ysgolion gwledig yn cael eu gwarchod o dan y Côd Trefniadaeth Ysgolion diwygiedig?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu polisi Llywodraeth Cymru ar ddarparu addysg cymunedol cadarn i blant ledled Cymru?
Pa ystyriaeth y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i rhoi i ariannu ysgolion yn uniongyrchol, yn hytrach na'r broses bresennol o ariannu drwy awdurdodau lleol?