Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 12/06/2024 i'w hateb ar 19/06/2024
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet
Pa ystyriaeth mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i rhoi i ddefnyddio pwerau benthyca y Llywodraeth ar gyfer adeiladu tai cymdeithasol?
Beth yw polisi Llywodraeth Cymru ar gaffael, defnyddio a gwerthu eiddo?
Pa ystyriaeth a roddodd yr Ysgrifennydd Cabinet i fynd i'r afael â digartrefedd ymhlith pobl ifanc wrth lunio cyllideb ddrafft 2024-25 Llywodraeth Cymru?
Pa drafodaethau y mae yr Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gyda Chynghrair Twristiaeth Cymru ynghylch gweithredu'r ardoll ymwelwyr?
Pa asesiad y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o weinyddu grantiau Llywodraeth Cymru a ddyfarnwyd i sefydliadau yng Nghwm Cynon?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith toriadau cymorth cyfreithiol, fel y nodwyd yn adroddiad y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru?
Pa sylwadau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u gwneud i Lywodraeth y DU ynghylch cynyddu pwerau benthyca darbodus i Gymru?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithredu datganiadau'r Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru?
Pa asesiad y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o'r angen i ddatganoli pwerau dros blismona i Gymru?
Pa gynnydd sydd wedi’i wneud ar y gwaith gan Lywodraeth Cymru a’r SYG ar gydlynu ystadegau’r Gymraeg rhwng y cyfrifiad ac arolygon eraill?
Pa flaengynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer ei phortffolio o eiddo ac asedau eraill?
Pa diweddar y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o effaith yr ardoll ymwelwyr ar fusnesau'r canolbarth?
Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
Sut y mae'r Llywodraeth yn sicrhau nad yw unrhyw brosiectau y mae'n eu hariannu'n cael effaith negyddol ar yr amgylchedd lleol?
Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i annog y defnydd o dechnoleg mewn ffermio?
Pa asesiad y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o sicrwydd dŵr yng Nghymru?
A wnaiff yr Ysgrifenydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau Llywodraeth Cymru i ddileu TB buchol yn y canolbarth?
Beth yw polisi Llywodraeth Cymru ar gynyddu faint o fywyd gwyllt sydd ar ffermydd?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am faterion capasiti staff yn Cyfoeth Naturiol Cymru?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i ddarparu dull o goedwigo sy'n gweithio gyda chymunedau lleol ac ar eu cyfer?
Pa fesurau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd i sicrhau bod Gwastadeddau Gwent yn cael eu gwarchod?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r sector amaethyddol yn Nwyrain De Cymru?
Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael â microblastigau yng Nghymru?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd eleni i atal llygredd diwydiannol rhag effeithio ar gymunedau?