Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 12/03/2025 i'w hateb ar 19/03/2025
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am weithredu Ynni Cymru?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gymorth Llywodraeth Cymru i alluogi sefydliadau yn Nelyn i ddod yn fwy effeithlon o ran ynni?
Pa gynlluniau sydd gan yr Ysgrifennydd Cabinet i ddiwygio'r system gynllunio er mwyn darparu ar gyfer mwy o bŵer i gymunedau lleol mewn penderfyniadau?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith prisiau parth ar brisiau trydan i ddefnyddwyr yng Nghymru?
Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â gwella signal ffonau symudol yn Sir Fynwy?
Pa gamau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cymryd i sicrhau bod y sector twristiaeth a lletygarwch yng Ngogledd Cymru yn cael ei gefnogi a'i fod yn barod cyn tymor twristiaeth y gwanwyn?
Beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud i wella cysylltedd band eang mewn cymunedau gweldig?
Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i Faes Awyr Caerdydd?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar gynnydd Llywodraeth Cymru o ran datblygu cynllun datblygu economaidd ar gyfer Blaenau'r Cymoedd?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i gefnogi'r broses bontio yn Tata Steel ym Mhort Talbot?
Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi'r diwydiant twristiaeth ym Mhreseli Sir Benfro?
Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi'r economi ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed?
Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar effaith y contract meddygaeth deulu newydd ar wasanaethau iechyd sylfaenol ym Mlaenau Gwent?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r effaith y bydd y system newydd ar gyfer ymateb i argyfwng yn ei chael ar ofal strôc?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gwella capasiti gofal iechyd yng Ngogledd Cymru?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi byrddau iechyd i sicrhau bod y targed llwybr lle’r amheuir canser 62 ddiwrnod yn cael ei gyrraedd yn gyson ar draws Cymru?
Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella amseroedd aros yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi gwasanaethau deintyddol yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro?
Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i leihau amseroedd aros i gleifion y mae arnynt angen llawdriniaeth orthopedig yn ne-ddwyrain Cymru?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar effaith canslo cludiant rhwng y cartref a'r ysbyty, a ddarperir gan Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, ar fyr rybudd i gleifion y mae angen iddynt fynd i apwyntiadau ysbyty?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod practisau cyffredinol gwledig yn cael digon o gyllid i sicrhau bod pawb yng Nghymru yn byw o fewn pellter rhesymol i bractis cyffredinol?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella canlyniadau iechyd i breswylwyr yn Nwyrain De Cymru?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi gwasanaethau ymarfer cyffredinol?