Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 12/02/2025 i'w hateb ar 19/02/2025

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai

1
OQ62358 (e) Wedi’i gyflwyno ar 12/02/2025

Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gyflymu'r gwaith o adeiladu tai yng Nghymru?

 
2
OQ62345 (d) Wedi’i gyflwyno ar 12/02/2025

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod awdurdodau lleol yng Ngorllewin De Cymru yn cael eu hariannu'n ddigonol?

 
3
OQ62354 (e) Wedi’i gyflwyno ar 12/02/2025

Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod etholiadau'r Senedd yn hygyrch i bawb?

 
4
OQ62347 (e) Wedi’i gyflwyno ar 12/02/2025

Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o ffioedd a dalwyd i Ystâd y Goron gan awdurdodau lleol yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?

 
5
OQ62332 (e) Wedi’i gyflwyno ar 12/02/2025

Beth yw blaenoriaethau adfywio Llywodraeth Cymru ar gyfer Preseli Sir Benfro am y 12 mis nesaf?

 
6
OQ62356 (e) Wedi’i gyflwyno ar 12/02/2025

Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o fynediad at dai fforddiadwy ledled Cymru?

 
7
OQ62343 (e) Wedi’i gyflwyno ar 12/02/2025

Faint o dai cymdeithasol newydd i’w rhentu sydd wedi'u hadeiladu dros y ddwy flynedd ddiwethaf yn Aberconwy?

 
8
OQ62350 (w) Wedi’i gyflwyno ar 12/02/2025

Pa ystyriaeth y mae'r Ysgrifenydd Cabinet wedi'i roi i osod isafswm cynnydd ar gyfer y setliad ariannol ar gyfer Llywodraeth Leol yn 2025-26 er mwyn sicrhau bod awdurdodau lleol fel Cyngor Gwynedd yn gallu diogelu gwasanaethau i’w trigolion?

 
9
OQ62362 (w) Wedi’i gyflwyno ar 12/02/2025

Pa asesiad y mae’r Llywodraeth wedi ei wneud o anghenion tai yng Nghymru?

 
10
OQ62360 (e) Wedi’i gyflwyno ar 12/02/2025

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad am gynnydd Llywodraeth Cymru tuag at ei tharged ar gyfer cartrefi newydd?

 
11
OQ62346 (e) Wedi’i gyflwyno ar 12/02/2025

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn ymateb i’r adroddiad diweddar gan Sefydliad Bevan, 'Regenerating communities: affordable homes from unused faith-owned spaces'?

Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

1
OQ62353 (e) Wedi’i gyflwyno ar 12/02/2025

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am waith rhaglen Taith?

 
2
OQ62359 (e) Wedi’i gyflwyno ar 12/02/2025

Sut y mae’r Ysgrifennydd Cabinet yn gweithio gydag ysgolion i sicrhau'r adeiladau ysgol gorau posibl yn Nwyrain De Cymru?

 
3
OQ62366 (e) Wedi’i gyflwyno ar 12/02/2025

Sut y mae’r Ysgrifennydd Cabinet yn gweithio gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio i sicrhau bod polisi addysg drydyddol Llywodraeth Cymru yn cefnogi prentisiaethau yn Ynys Môn?

 
4
OQ62330 (e) Wedi’i gyflwyno ar 12/02/2025

Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i adeiladu unrhyw unedau cyfeirio disgyblion newydd?

 
5
OQ62331 (e) Wedi’i gyflwyno ar 12/02/2025

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch cyflwyno'r cwricwlwm newydd?

 
6
OQ62327 (e) Wedi’i gyflwyno ar 12/02/2025

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am waith yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol Cymru?

 
7
OQ62351 (e) Wedi’i gyflwyno ar 12/02/2025

Pa asesiad y mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o effaith adroddiad blynyddol Estyn 2023-24 ar addysg yng Nghymru?

 
8
OQ62348 (e) Wedi’i gyflwyno ar 12/02/2025

Pa oruchwyliaeth sydd gan Lywodraeth Cymru dros awdurdodau addysg lleol sy'n methu ag ymchwilio'n iawn i honiadau o gamymddwyn?

 
9
OQ62333 (w) Wedi’i gyflwyno ar 12/02/2025

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi dysgwyr mewn ysgolion i ddysgu ieithoedd modern?

 
10
OQ62349 (e) Wedi’i gyflwyno ar 12/02/2025

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi anghenion addysgol disgyblion sydd ag anghenion dysgu ychwanegol yn Sir Drefaldwyn?

 
11
OQ62335 (e) Wedi’i gyflwyno ar 12/02/2025

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r gweithlu addysg?

 
12
OQ62355 (e) Wedi’i gyflwyno ar 12/02/2025

Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o fynediad at addysg uwch ac addysg bellach mewn cymunedau gwledig?