Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 14/01/2021 i'w hateb ar 19/01/2021

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Prif Weinidog

1
OQ56126 (e) Wedi’i gyflwyno ar 14/01/2021

Pa sylwadau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cyflwyno i Lywodraeth y DU ynghylch darparu cymorth ariannol ychwanegol i gynorthwyo swyddi y mae COVID-19 wedi cael effaith arnynt yng Nghymru?

 
2
OQ56158 (e) Wedi’i gyflwyno ar 14/01/2021

A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y paratoadau ar gyfer etholiadau sydd ar y gweill yng Nghymru?

 
3
OQ56159 (e) Wedi’i gyflwyno ar 14/01/2021

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gyflymu cyfradd brechiadau COVID-19 yng Nghymru?

 
4
OQ56155 (e) Wedi’i gyflwyno ar 14/01/2021

Beth yw asesiad cyfredol y Prif Weinidog o COVID-19 yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan?

 
5
OQ56164 (e) Wedi’i gyflwyno ar 14/01/2021

Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o effaith cynnydd yn y dreth gyngor ar gyllid pobl yn Nwyrain De Cymru sy'n wynebu anawsterau ariannol?

 
6
OQ56147 (e) Wedi’i gyflwyno ar 14/01/2021

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y lefel tlodi plant yn Llanelli?

 
7
OQ56127 (e) Wedi’i gyflwyno ar 14/01/2021

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y cynnydd o ran cyflwyno brechiadau COVID-19 yng ngogledd Cymru?

 
8
OQ56160 (e) Wedi’i gyflwyno ar 14/01/2021

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer datblygiadau cyfansoddiadol yng Nghymru?

 
9
OQ56157 (e) Wedi’i gyflwyno ar 14/01/2021

Beth yw'r goblygiadau i Gymru yn sgil penderfyniad Llywodraeth y DU i ganslo cyfranogiad y DU yn rhaglen Erasmus Ewrop?

 
10
OQ56165 (e) Tynnwyd yn ôl Wedi’i gyflwyno ar 14/01/2021

Pa asesiad o'r effaith ar gydraddoldeb y mae Llywodraeth Cymru wedi'i gynnal mewn perthynas â'r cyfyngiadau coronafeirws presennol?

 
11
OQ56136 (e) Wedi’i gyflwyno ar 14/01/2021

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y nifer sydd wedi manteisio ar y gronfa cadernid economaidd a lansiwyd ar 13 Ionawr 2021 gan fusnesau perthnasol yng Ngogledd Cymru?

 
12
OQ56163 (e) Wedi’i gyflwyno ar 14/01/2021

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y ddarpariaeth prydau ysgol am ddim yng Ngorllewin De Cymru?