Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 13/11/2025 i'w hateb ar 18/11/2025
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ddatblygu'r sector cydweithredol?
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella'r ddarpariaeth gwasanaethau iechyd ym Mhreseli Sir Benfro?
Pa gamau y mae'r Prif Weinidog yn eu cymryd i sicrhau bod cartrefi gofal yng ngogledd Cymru yn wydn yn ariannol?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi hawliau plant?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i leihau amseroedd aros y GIG yng Ngogledd Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad ar waith Llywodraeth Cymru gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i wneud y broses o ailwneud cais am fathodyn glas yn fwy cyson ar draws awdurdodau lleol?
A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad ar yr hyn sydd wedi’i gyflawni gan y Llywodraeth dros y bum mlynedd ddiwethaf i leihau'r defnydd o agregau crai?
Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i gyflwyno neu gefnogi rhaglenni sgrinio antigen penodol i'r prostad ar gyfer dynion sydd â risg uwch o ganser y prostad?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod cyn lleied â phosibl o anghyfleusterau i'r cyhoedd pan fydd ffyrdd ar gau ar gyfer gwaith cynnal a chadw hanfodol?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi busnesau yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro?
A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad am y cynllun i sefydlu rhwydwaith o gerbydau ymateb brys yng Ngwynedd?
A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad ar ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar y rheol 182 diwrnod ar gyfer llety gwyliau?