Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 11/11/2020 i'w hateb ar 18/11/2020

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig

1
OQ55887 (e) Wedi’i gyflwyno ar 11/11/2020

Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith tân gwyllt a werthir mewn siopau ar les anifeiliaid yng Nghymru?

 
2
OQ55863 (e) Wedi’i gyflwyno ar 11/11/2020

Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i leihau'r perygl o lifogydd yn y Rhondda?

 
3
OQ55852 (w) Wedi’i gyflwyno ar 11/11/2020

A wnaiff y Gweindiog roi diweddariad am y cynllun Arbed yn Arfon?

 
4
OQ55881 (e) Wedi’i gyflwyno ar 11/11/2020

Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella bioamrywiaeth?

 
5
OQ55883 (e) Wedi’i gyflwyno ar 11/11/2020

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y terfyn maint dal ar gyfer pysgod cregyn yng Nghymru?

 
6
OQ55878 (e) Wedi’i gyflwyno ar 11/11/2020

Pa gymorth ariannol sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru i ddinasyddion Cymru y mae llifogydd a difrod dŵr yn effeithio'n rheolaidd ar eu heiddo ar gyfer atal a lliniaru effeithiau llifogydd?

 
7
OQ55876 (e) Wedi’i gyflwyno ar 11/11/2020

Beth yw dadansoddiad diweddaraf Llywodraeth Cymru o effeithiau COVID-19 ar ei pholisïau ar gyfer gwelliannau amgylcheddol yng Nghymru?

 
8
OQ55869 (e) Wedi’i gyflwyno ar 11/11/2020

A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddull Llywodraeth Cymru o ymdrin â pharthau perygl nitradau ledled Cymru?

 
9
OQ55872 (e) Wedi’i gyflwyno ar 11/11/2020

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i helpu i ddarparu morlyn llanw ym Mae Abertawe?

 
10
OQ55855 (e) Wedi’i gyflwyno ar 11/11/2020

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i brosiectau gwynt arnawf yng Nghymru?

 
11
OQ55889 (w) Wedi’i gyflwyno ar 11/11/2020

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer ynni adnewyddadwy?

 
12
OQ55888 (e) Wedi’i gyflwyno ar 11/11/2020

Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Cyfoeth Naturiol Cymru am yr amgylchedd yng nghymoedd de Cymru?

Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol

1
OQ55882 (e) Wedi’i gyflwyno ar 11/11/2020

A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio?

 
2
OQ55854 (e) Wedi’i gyflwyno ar 11/11/2020

Pa fesurau y bydd y Gweinidog yn eu hyrwyddo ar draws Llywodraeth Cymru i liniaru tlodi plant yn Ogwr?

 
3
OQ55860 (w) Wedi’i gyflwyno ar 11/11/2020

A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ar gynlluniau Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael ag ail gartrefi ar draws Cymru?

 
4
OQ55877 (e) Wedi’i gyflwyno ar 11/11/2020

Pa ymdrechion y mae Llywodraeth Cymru yn eu gwneud i sicrhau nad yw pobl ifanc mewn ardaloedd gwledig yn cael eu prisio allan o'u marchnadoedd tai lleol?

 
5
OQ55858 (e) Wedi’i gyflwyno ar 11/11/2020

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarparu gwasanaethau cyhoeddus lleol yn sir Benfro?

 
6
OQ55857 (e) Wedi’i gyflwyno ar 11/11/2020

A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am nifer y bobl sy'n cysgu ar y stryd yng Ngogledd Cymru?

 
7
OQ55865 (e) Wedi’i gyflwyno ar 11/11/2020

A wnaiff y Gweinidog amlinellu strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer cyflawni'r agenda ddatgarboneiddio yn y sector tai cymdeithasol?

 
8
OQ55867 (e) Wedi’i gyflwyno ar 11/11/2020

Pa gynnydd sydd wedi'i wneud ers 2016 i wella ansawdd stoc tai Cymru?

 
9
OQ55874 (e) Wedi’i gyflwyno ar 11/11/2020

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am hawliau datblygu a ganiateir yng Nghymru yn sgil y pandemig COVID-19?

 
10
OQ55879 (e) Wedi’i gyflwyno ar 11/11/2020

Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r effaith y mae'r pandemig parhaus yn ei chael ar gynllunio awdurdodau lleol ar gyfer y gaeaf?

 
11
OQ55886 (e) Wedi’i gyflwyno ar 11/11/2020

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ymdrechion Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â thlodi plant yng Nghymru?

 
12
OQ55871 (e) Wedi’i gyflwyno ar 11/11/2020

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyllid llywodraeth leol?