Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 11/10/2023 i'w hateb ar 18/10/2023
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Gweinidog yr Economi
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi safleoedd treftadaeth yng Ngorllewin Casnewydd?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am fargen twf canolbarth Cymru?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am genhadaeth Llywodraeth Cymru i gryfhau ac ailadeiladu'r economi?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i annog twf economaidd yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro?
A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y gefnogaeth sydd ar gael i fusnesau bach yng Nghanol De Cymru?
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch pontio teg tuag at economi sero net yng Nghymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gymorth Llywodraeth Cymru i fusnesau ym Mlaenau Gwent?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am weithrediad Cronfa Busnes Cymru?
Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu ar gyfer y diwydiannau creadigol a digidol yng ngogledd Cymru?
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gynorthwyo sefydlu, tyfu a datblygu busnesau yn Islwyn?
Sut mae'r Gweinidog yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i hyrwyddo'r Wylfa a Thrawsfynydd fel safleoedd ar gyfer prosiectau ynni niwclear?
Beth yw blaenoriaethau economaidd Llywodraeth Cymru ar gyfer Casnewydd a'r cyffiniau?
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y ddarpariaeth gwasanaethau dialysis arennau i drigolion Canol De Cymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y ddarpariaeth iechyd cymunedol yn Nyffryn Clwyd?
Beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud i leihau'r pwysau ar adrannau damweiniau ac achosion brys yn Nwyrain De Cymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am oruchwyliaeth reoleiddiol iechyd a gofal cymdeithasol yng ngogledd Cymru?
Pa waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael â'r prinder parhaus o feddyginiaeth ADHD?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi hosbisau yng Ngorllewin De Cymru?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi cleifion strôc?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyfodol Meddygfa Waunfawr yn Arfon?
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gydag awdurdodau lleol ynglŷn â therfynu'r arfer o godi llog ar gostau gofal perthynas, yn enwedig ar ôl marwolaeth y berthynas?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y ganolfan diagnosteg a thriniaeth newydd sydd wedi'i chynllunio ar gyfer Parc Iechyd Llantrisant?
Pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â'r rhwystrau sy'n atal menywod a phobl â serfics rhag cael profion ceg y groth?
Pa gynnydd mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o ran sefydlu llwybr i bobl ifanc drawsryweddol gael gofal yma yng Nghymru?