Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 13/10/2022 i'w hateb ar 18/10/2022
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
A wnaiff y Prif Weinidog gyflymu'r broses o gyflwyno deddfwriaeth ar ddiogelwch adeiladau yng Nghymru?
Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o'r effaith y mae'r helbul diweddar yn y marchnadoedd ariannol yn ei chael ar Gymru?
Pa gymorth y mae'r Llywodraeth yn ei roi i helpu busnesau ym Meirionnydd yn wyneb y costau ynni?
Pa gymorth mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu ar gyfer gofal meddygon teulu y tu allan i oriau?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am raglenni sgrinio cenedlaethol y GIG ar sail poblogaeth ledled Cymru?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i sicrhau bod gan Gonwy a Sir Ddinbych ystâd GIG sy'n addas i'w diben?
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i roi cymorth ychwanegol i ddiwydiannau dwys o ran ynni?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith argyfwng ariannol y DU ar ei chynlluniau presennol ar gyfer defnyddio ei phwerau benthyg?
Sut mae Llywodraeth Cymru'n gweithio gyda rhanddeiliaid i sicrhau mynediad cyfartal i gymorth i rieni yn dilyn chwalu teuluoedd?
Sut mae Llywodraeth Cymru'n mynd i'r afael â'r ôl-groniad yn amseroedd aros y GIG am driniaeth?
Beth mae'r Prif Weinidog yn ei wneud i helpu busnesau drwy'r argyfwng costau byw?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o lwyddiant y GIG o ran cwrdd â'i thargedau rhestrau aros?