Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 11/09/2024 i'w hateb ar 18/09/2024

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru

1
OQ61526 (e) Wedi’i gyflwyno ar 11/09/2024

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau pontio cyfiawn i weithwyr yng ngogledd Cymru?

 
2
OQ61497 (e) Wedi’i gyflwyno ar 11/09/2024

Pa asesiad economaidd y mae yr Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o berfformiad y sector twristiaeth yng ngogledd Cymru yr haf hwn?

 
3
OQ61513 (w) Wedi’i gyflwyno ar 11/09/2024

Pa arweiniad mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn ei roi i gwmniau ynni ynghylch cyfraniad cymunedol wrth iddyn nhw ddatblygu prosiectau yn Nghymru?

 
4
OQ61528 (e) Wedi’i gyflwyno ar 11/09/2024

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu gwella gwasanaethau bysiau yn Islwyn?

 
5
OQ61492 (e) Wedi’i gyflwyno ar 11/09/2024

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar weithredu prosiectau ffyrdd yn Sir Benfro?

 
6
OQ61518 (e) Wedi’i gyflwyno ar 11/09/2024

Pa asesiad y mae yr Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o ddibynadwyedd gwasanaethau rheilffyrdd rhwng Gogledd Cymru a Llundain?

 
7
OQ61516 (e) Wedi’i gyflwyno ar 11/09/2024

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am gynnydd mewn cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU o ran datblygu economaidd yng Nghymru?

 
8
OQ61520 (e) Wedi’i gyflwyno ar 11/09/2024

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am ddibynadwyedd trafnidiaeth gyhoeddus yng Ngogledd Cymru?

 
9
OQ61494 (e) Wedi’i gyflwyno ar 11/09/2024

Pa asesiad y mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o’r effaith ym Mhowys ar ôl i derfynau cyflymder 20mya fod ar waith am flwyddyn?

 
10
OQ61514 (e) Wedi’i gyflwyno ar 11/09/2024

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi darlledwyr chwaraeon yng Nghymru?

 
11
OQ61529 (e) Wedi’i gyflwyno ar 11/09/2024

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar gymorth Llywodraeth Cymru i gwmnïau bysiau?

 
12
OQ61511 (e) Wedi’i gyflwyno ar 11/09/2024

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar y cyfyngiadau cyflymder dros dro ar gefnffyrdd yn Sir Fynwy?

Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip

1
OQ61519 (e) Wedi’i gyflwyno ar 11/09/2024

Pa ddiwydrwydd dyladwy y mae adran yr Ysgrifennydd Cabinet yn ei gynnal cyn dyfarnu contractau?

 
2
OQ61496 (e) Wedi’i gyflwyno ar 11/09/2024

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i leihau ymddygiad gorfodaethol?

 
3
OQ61502 (e) Wedi’i gyflwyno ar 11/09/2024

Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r effaith y mae gorlenwi carchardai yn ei chael ar ei gallu i gefnogi carcharorion?

 
4
OQ61510 (e) Wedi’i gyflwyno ar 11/09/2024

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am gyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer y sector celfyddydau a diwylliant?

 
5
OQ61525 (e) Wedi’i gyflwyno ar 11/09/2024

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddiogelu'r celfyddydau a diwylliant yn Islwyn?

 
6
OQ61505 (e) Wedi’i gyflwyno ar 11/09/2024

Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi pensiynwyr a fydd yn colli eu taliadau tanwydd gaeaf?

 
7
OQ61521 (e) Wedi’i gyflwyno ar 11/09/2024

Pa drafodaethau y mae yr Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch taliadau tanwydd gaeaf?

 
8
OQ61517 (e) Wedi’i gyflwyno ar 11/09/2024

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am gynnydd Llywodraeth Cymru o ran ehangu cyfranogiad mewn chwaraeon?

 
9
OQ61503 (e) Tynnwyd yn ôl Wedi’i gyflwyno ar 11/09/2024

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi gwasanaethau cynghori ar draws Cymru?

 
10
OQ61512 (e) Wedi’i gyflwyno ar 11/09/2024

Pa asesiad y mae'r Llywodraeth wedi'i wneud o effaith toriadau Llywodraeth y DU i daliadau tanwydd gaeaf ar bensiynwyr yng Nghymru?

 
11
OQ61500 (e) Wedi’i gyflwyno ar 11/09/2024

Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i gefnogi Llyfrgell Genedlaethol Cymru?

 
12
OQ61522 (e) Wedi’i gyflwyno ar 11/09/2024

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar gamau Llywodraeth Cymru tuag at roi terfyn ar drais yn erbyn menywod a merched?

Comisiwn y Senedd

1
OQ61509 (e) Wedi’i gyflwyno ar 11/09/2024

A wnaiff y Comisiwn roi diweddariad ar gostau amcangyfrifedig ehangu siambr y Senedd i wneud lle ar gyfer Aelodau ychwanegol?

 
2
OQ61506 (e) Wedi’i gyflwyno ar 11/09/2024

Beth y mae'r Comisiwn yn ei wneud i hysbysu pobl am y newidiadau i'r system bleidleisio a ffiniau etholaethau ar gyfer etholiad nesaf y Senedd?

 
3
OQ61531 (e) Wedi’i gyflwyno ar 11/09/2024

Pa asesiad y mae'r Comisiwn wedi'i wneud o'r lefelau presennol o ddarlledu trafodion y Senedd yn fyw sy'n digwydd ar sianeli teledu a ariennir yn gyhoeddus?

 
4
OQ61527 (e) Wedi’i gyflwyno ar 11/09/2024

Beth y mae'r Comisiwn yn ei wneud i fynd i'r afael yn weithredol ag aflonyddu rhywiol yn y gweithle?