Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 13/09/2018 i'w hateb ar 18/09/2018
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o gyflwyno credyd cynhwysol yng Nghymru?
Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch dyfodol polisi rhanbarthol yng Nghymru?
Beth y mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i wella cysylltiadau economaidd rhwng Cymru a de-orllewin Lloegr?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella ansawdd aer ym Mhort Talbot a'r cyffiniau?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y paratoadau diweddaraf ar gyfer gadael yr Undeb Ewropeaidd?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y camau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella cyfraddau goroesi canser?
Beth yw gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer dyfodol cymorth ariannol ar gyfer y diwydiant amaethyddol?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru i ddelio â phroblem melinau traethawd?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y cynllun arfaethedig ar gyfer ffordd liniaru'r M4 ger Casnewydd?
Beth yw cynlluniau Llywodraeth Cymru i leddfu tagfeydd ar yr A470 ar draws Canol De Cymru?
Sut y mae Llywodraeth Cymru'n cynllunio i sicrhau gostyngiad o 43 y cant mewn allyriadau cerbydau erbyn 2030?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i fynd i'r afael â thlodi mewn gwaith yng Nghymru?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodadaeth ddiweddaraf am ymdrechion Llywodraeth Cymru i ddatblygu parc busnes Parc Bryn Cegin ym Mangor?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y cymorth a gynigir gan Busnes Cymru i unigolion a busnesau?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am hyrwyddo cynnyrch bwyd a diod Cymreig?