Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 11/07/2018 i'w hateb ar 18/07/2018
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ryddhad ardrethi busnes ar gyfer y sector twristiaeth?
Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud o'r effaith ar Gymru yn sgil y ffaith nad yw Llywodraeth y DU wedi cytuno ar fargen â 27 aelod-wladwriaeth yr UE ar y trefniadau ar gyfer ymadael â'r Undeb Ewropeaidd?
Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer buddsoddi mewn seilwaith yng ngorllewin Cymru?
Pa ystyriaeth y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i rhoi i adroddiad Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, 'Y Sylfaen Drethu Gymreig: Risgiau a Chyfleoedd ar ôl Datganoli Cyllidol'?
Pa lefel o flaenoriaeth a roddir i'r portffolio addysg wrth benderfynu ar ymrwymiadau gwario Llywodraeth Cymru?
Pa gynlluniau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u sefydlu ar gyfer y posibilrwydd o ymadael â'r Undeb Ewropeaidd heb fargen?
Pa ystyriaeth a roddwyd i daliadau gwasanaeth gan awdurdodau lleol wrth bennu'r gyllideb ar gyfer y portffolio llywodraeth leol a gwasanaethau cyhoeddus?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ymdrechion Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael ag unrhyw wendidau yn y system ardrethi busnes?
Pa ystyriaeth a roddodd Ysgrifennydd y Cabinet i ofal cymdeithasol wrth ddyrannu cyllid i'r gyllideb iechyd a gwasanaethau cymdeithasol?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am safbwynt Llywodraeth Cymru ar y trefniadau ariannol rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru o ran Brexit?
Pa fesurau sydd ar waith i wella effeithlonrwydd gwariant cyhoeddus Llywodraeth Cymru?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am brosesau caffael Llywodraeth Cymru?
Pa ystyriaeth bellach y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i rhoi i dreth twristiaeth yn dilyn ei ddatganiad am drethi newydd ym mis Chwefror?
Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch trefniadau trosiannol ar gyfer y DU yn ystod y broses o ymadael â'r UE?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am fuddsoddi mewn seilwaith yn Sir Fynwy?
Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip
A wnaiff Arweinydd y Tŷ ddatganiad am ymdrechion Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â chaethwasiaeth fodern?
Pa gymorth y gall Llywodraeth Cymru ei gynnig i gymunedau i'w helpu i godi ymwybyddiaeth o'r materion sy'n wynebu ceiswyr lloches?
Sut y mae Llywodraeth Cymru'n mynd i'r afael â cham-drin domestig yn y Rhondda?
Sut y mae Llywodraeth Cymru'n sicrhau ei bod yn bodloni gofynion Deddf Cydraddoldeb 2010 o ran pobl ifanc ag anableddau dysgu a'u teuluoedd?
A wnaiff Arweinydd y Tŷ roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y camau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i ddigideiddio gwasanaethau cyhoeddus?
A wnaiff Arweinydd y Tŷ roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y ddarpariaeth o fand eang yn ne-ddwyrain Cymru?
Pa gynnydd y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud o ran cyflawni ei hamcanion polisi ar gyfer sicrhau mwy o gydraddoldeb yng Nghymru?
A wnaiff Arweinydd y Tŷ ddatganiad am y seilwaith digidol yng ngogledd Cymru?
A wnaiff Arweinydd y Tŷ roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gyflwyno band eang yng ngorllewin Cymru?
Pa fuddsoddiad y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud mewn telegyfathrebu yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?
A wnaiff Llywodraeth Cymru gyflwyno deddfwriaeth i weithredu Siarter Hawliau Dynol Ewrop yn dilyn Brexit?
Pa asesiad y mae Arweinydd y Tŷ wedi'i wneud o lwyddiant polisïau Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â cham-drin domestig?
A wnaiff Arweinydd y Tŷ amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru i hwyluso mwy o gydraddoldeb rhwng y rhywiau erbyn 2021?
Comisiwn y Cynulliad
A wnaiff y Comisiwn datganiad ynglŷn â defnyddio ystâd y Cynulliad ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol?
Pa gamau y mae'r Comisiwn wedi'u cymryd i alluogi menywod i fwydo ar y fron yn y Senedd?