Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 11/06/2025 i'w hateb ar 18/06/2025
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai
Pa gamau y mae'r Llywodraeth yn eu cymryd i reoleiddio cwmnïau preifat sy'n rheoli anheddau?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith sy'n cael ei wneud i wella diwylliant y gweithle a safonau rheoli a llywodraethu yng ngwasanaethau tân ac achub Cymru?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar newidiadau arfaethedig i'r drefn o ran gosod pympiau gwres ar gyfer tai newydd a thai sy’n bodoli eisoes?
Beth yw canllawiau Llywodraeth Cymru ar ddarpariaeth toiledau cyhoeddus gan awdurdodau lleol?
Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i leddfu’r argyfwng tai mewn cymunedau Cymraeg cyn diwedd y Senedd hon?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet gyflwyno cynigion i wella ymgysylltiad democrataidd lleol a chynyddu cyfranogiad cyn yr etholiadau lleol nesaf yn 2027, o ystyried y bu nifer y pleidleiswyr mewn llawer o etholiadau llywodraeth leol yn llai na 40 y cant?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar y cymorth sydd ar gael i berchnogion tai y mae concrit awyredig awtoclafiedig cyfnerth (RAAC) yn effeithio ar eu heiddo?
Pa gamau y mae’r Ysgrifennydd Cabinet yn eu cymryd i wella effeithiolrwydd y cynllun cartrefi clyd?
Pa gynlluniau sydd gan yr Ysgrifennydd Cabinet i wella effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru?
Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ddiogelu gwasanaethau llywodraeth leol rheng flaen ym Mhen-y-bont ar Ogwr?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am gydweithredu rhwng awdurdodau lleol yng Nghanol De Cymru?
Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
Sut mae'r Llywodraeth yn sicrhau bod dysgwyr mewn ysgolion a cholegau yn cael eu haddysgu'n effeithiol am ddemocratiaeth Cymru?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar gyllid ysgolion ar gyfer ysgolion yng Nghanol De Cymru?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am y defnydd o ffonau clyfar gan fyfyrwyr mewn ysgolion?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr uwchgynhadledd genedlaethol ar ymddygiad?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gynnwys deallusrwydd artiffisial mewn addysg?
Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi oedolion sy'n ddysgwyr mewn addysg bellach yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am ariannu’r gwaith o gynnal a chadw adeiladau ysgolion?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod plant sydd â syndrom Tourette yn cael cymorth priodol yn yr ysgol?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod gan riant y rhyddid i ddewis pa ysgol y caiff ei blentyn fynd iddi?