Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 13/06/2024 i'w hateb ar 18/06/2024
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i wasanaethau sy'n gweithio i liniaru niwed sy'n ymwneud â gamblo?
A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad ar restrau aros GIG Cymru?
Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i gefnogi datblygiad cerddorion ifanc?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i hyrwyddo a datblygu swyddi gwyrdd yn ne-ddwyrain Cymru?
Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael â llygredd amgylcheddol?
Sut y mae'r Prif Weinidog yn ymateb i bleidlais y Senedd o ddiffyg hyder yn ei arweinyddiaeth?
Pa gymorth a chyngor a roddir gan Lywodraeth Cymru i fusnesau bach yng Nghaerffili?
Beth yw safbwynt Llywodraeth Cymru ar ddatganoli pwerau pellach i'r Senedd?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau llesiant holl bobl Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am reoli'r perygl o lifogydd ym mwrdeistref sirol Conwy?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael â phryderon diogelwch ffyrdd yn Sir Drefaldwyn?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn diwallu anghenion disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol?