Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 13/06/2019 i'w hateb ar 18/06/2019
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
Beth yw'r broses y mae Llywodraeth Cymru yn ei dilyn i wyrdroi penderfyniad gan bwyllgor cynllunio awdurdod lleol i wrthod caniatâd cynllunio?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y rhaglen Cymoedd Technoleg?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y potensial ar gyfer banc cymunedol yng Nghymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am flaenoriaethau economaidd Llywodraeth Cymru ar gyfer Canol De Cymru am weddill tymor y Cynulliad hwn?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y camau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i hyrwyddo hanes lleol yng ngogledd Cymru?
Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i ddefnyddio caffael cyhoeddus i gryfhau busnesau lleol?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddyfodol y system gynllunio yng Nghymru?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd yn Nwyrain Abertawe yn dilyn y datgniad am yr argyfwng newid hinsawdd?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer banc cymunedol i Gymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am effaith economaidd y bwriad i gau ffatri beiriannau Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gymorth Llywodraeth Cymru ar gyfer ffermwyr sy'n denantiaid?
A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu blaenoriaethau economaidd Llywodraeth Cymru ar gyfer de-ddwyrain Cymru?
Y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip
A wnaiff y Dirprwy Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am bolisïau cydraddoldeb Llywodraeth Cymru?
A wnaiff y Dirprwy Weinidog amlinellu pa fesurau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gryfhau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015?
A wnaiff y Dirprwy Weinidog ddatganiad am ddiogelwch cymunedol yn ne-ddwyrain Cymru?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau ei bod yn cydymffurfio â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015?
Pa asesiad mae'r Dirprwy Weinidog wedi ei wneud o gyflogau merched yn Ynys Môn?
A wnaiff y Dirprwy Weinidog ddatganiad am yr hyfforddiant sydd ar gael i adnabod a mynd i'r afael â rheolaeth drwy orfodaeth?