Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 11/05/2022 i'w hateb ar 18/05/2022

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Y Gweinidog Newid Hinsawdd

1
OQ58059 (w) Wedi’i gyflwyno ar 11/05/2022

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar reolaeth lefelau dŵr yng nghronfa ddŵr Llyn Clywedog, Powys?

 
2
OQ58049 (e) Wedi’i gyflwyno ar 11/05/2022

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i sicrhau bod ffynonellau newydd o ynni rhad a glân i Gymru yn cael eu gweithredu cyn gynted â phosibl?

 
3
OQ58051 (e) Wedi’i gyflwyno ar 11/05/2022

Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a natur?

 
4
OQ58043 (e) Wedi’i gyflwyno ar 11/05/2022

A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau plannu coed Llywodraeth Cymru?

 
5
OQ58037 (e) Wedi’i gyflwyno ar 11/05/2022

Sut mae Llywodraeth Cymru yn datblygu rhwydwaith trafnidiaeth gynaliadwy yng Ngogledd Cymru?

 
6
OQ58045 (e) Wedi’i gyflwyno ar 11/05/2022

A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y camau sy'n cael eu cymryd i wella ansawdd aer yng Ngorllewin Clwyd?

 
7
OQ58063 (e) Wedi’i gyflwyno ar 11/05/2022

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i annog adeiladu tai newydd yn etholaeth Mynwy?

 
8
OQ58061 (e) Wedi’i gyflwyno ar 11/05/2022

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gymorth ariannol ar gyfer prosiectau ynni'r llanw yng Nghymru?

 
9
OQ58057 (e) Wedi’i gyflwyno ar 11/05/2022

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am rôl cynghorau lleol o ran cynorthwyo Llywodraeth Cymru i gyrraedd ei thargedau ailgylchu?

Gweinidog y Gymraeg ac Addysg

1
OQ58054 (w) Wedi’i gyflwyno ar 11/05/2022

Sut mae'r Llywodraeth yn cefnogi gwaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol?

 
2
OQ58053 (w) Wedi’i gyflwyno ar 11/05/2022

A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad am gynlluniau’r Llywodraeth i gefnogi plant a phobl ifanc dyslecsic yn etholaeth Arfon?

 
3
OQ58041 (e) Wedi’i gyflwyno ar 11/05/2022

Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Gweinidog yr Economi ynghylch sut y gallai'r system addysg fynd i'r afael â'r bwlch sgiliau?

 
4
OQ58034 (e) Wedi’i gyflwyno ar 11/05/2022

Pa ymgysylltiad y mae'r Gweinidog wedi'i gael â Choleg Pen-y-bont ar gynlluniau i ddatblygu'r campws?

 
5
OQ58052 (e) Wedi’i gyflwyno ar 11/05/2022

Sut mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael â phrinderau yn y proffesiwn addysgu?

 
6
OQ58056 (e) Wedi’i gyflwyno ar 11/05/2022

Sut mae Llywodraeth Cymru yn monitro i ba raddau y caiff Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 ei gweithredu?

 
7
OQ58062 (e) Wedi’i gyflwyno ar 11/05/2022

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i annog mwy o bobl ifanc i astudio pynciau STEM?

 
8
OQ58055 (e) Wedi’i gyflwyno ar 11/05/2022

Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi ysgolion i ganfod ac asesu anghenion addysgol arbennig mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar ledled Pen-y-bont ar Ogwr?

 
9
OQ58033 (e) Wedi’i gyflwyno ar 11/05/2022

Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gydag ysgolion yn Rhondda ynghylch iechyd a lles dysgwyr ifanc?

 
10
OQ58042 (e) Wedi’i gyflwyno ar 11/05/2022

A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cyngor y mae ysgolion yn ei roi i blant ar y defnydd o gyfryngau cymdeithasol?

 
11
OQ58058 (e) Wedi’i gyflwyno ar 11/05/2022

A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ar ymdrechion i gofrestru plant sy'n ffoaduriaid o Wcráin yn ysgolion Cymru?

 
12
OQ58046 (e) Wedi’i gyflwyno ar 11/05/2022

Pa gamau y mae'r Gweinidog yn eu cymryd i gefnogi plant y lluoedd arfog yng Nghymru?