Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 11/03/2026 i'w hateb ar 18/03/2026
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru
Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i wella mynediad trafnidiaeth i ysbytai?
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella'r rhwydwaith ffyrdd ym Mhreseli Sir Benfro?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella'r rhwydwaith trafnidiaeth yn Nwyrain De Cymru?
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella diogelwch ar y ffyrdd yn Nwyrain Caerfyrddin a Dinefwr?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i wella llif traffig ar yr M4 o amgylch Abertawe?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar yr effaith y bydd cymeradwyo'r achos busnes ar gyfer parth strategaeth ddiwydiannol Caerdydd a Chasnewydd yn ei chael ar gynigion Parcffordd Caerdydd?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r rhwydwaith cefnffyrdd yng ngorllewin Cymru?
Pa drafodaethau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio i gydlynu cymorth i aelwydydd ledled Gogledd Cymru y mae prisiau ynni uwch yn effeithio arnynt?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar wrthdroi'r terfyn cyflymder diofyn 20mya mewn rhai ardaloedd?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd gwaith Llywodraeth Cymru ar anghenion trafnidiaeth a gwytnwch yr A55 yn Nelyn?
Pa drafodaethau mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio ynglŷn â sefydlu amgueddfa filwrol genedlaethol ar gyfer Cymru?
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi mudiadau trydydd sector yng Nghanol De Cymru?
Pa asesiad y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o'r effaith y mae'r nifer gynyddol o fenywod ifanc rhwng 19 a 24 oed nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant yn ei chael ar gydraddoldeb, tlodi a ffyniant?
Pa asesiad mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o'r ddarpariaeth gwasanaethau cymorth ymosodiadau rhywiol yng ngogledd Cymru?
Pa drafodaethau fydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn eu cael gyda'r Cwnsler Cyffredinol a Llywodraeth y DU yn dilyn pleidlais y Senedd ar y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Troseddu a Phlismona?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ei thrafodaethau gyda Llywodraeth y DU ynghylch dull newydd o fynd i'r afael â throseddu gan fenywod?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn lliniaru tlodi tanwydd?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi teuluoedd sydd mewn perygl o dlodi?
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi'r sector gwirfoddol ym Mhreseli Sir Benfro?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith y gwrthdaro yn y Dwyrain Canol ar dlodi tanwydd?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddarpariaeth canolfannau clyd yn Islwyn y gaeaf hwn o ganlyniad i gyllid Llywodraeth Cymru?
Comisiwn y Senedd
Pa waith paratoi y mae'r Comisiwn wedi'i wneud ar gyfer cefnogi busnes y Senedd, gan gynnwys Cyfarfodydd Llawn, yn y Seithfed Senedd?
Pa gynlluniau sydd gan y Comisiwn i wella cyfleusterau ar gyfer bwydo ar y fron yn y Senedd?
A wnaiff y Comisiwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gamau'r Senedd i gaffael a hyrwyddo bwyd a diod o Gymru ar ystad y Senedd?