Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 13/03/2025 i'w hateb ar 18/03/2025

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Prif Weinidog

1
OQ62487 (e) Wedi’i gyflwyno ar 13/03/2025

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi busnesau yn y sector amddiffyn yng Nghymru?

 
2
OQ62472 (w) Wedi’i gyflwyno ar 13/03/2025

Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi cynlluniau i wella’r ddarpariaeth iechyd a llesiant ar gyfer trigolion Dyffryn Nantlle?

 
3
OQ62486 (e) Wedi’i gyflwyno ar 13/03/2025

Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i gomisiynu ei hadolygiad ei hun o'r diwydiant dŵr i asesu rhinweddau dod ag ef i berchnogaeth gyhoeddus?

 
4
OQ62482 (e) Wedi’i gyflwyno ar 13/03/2025

Beth yw gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer hyfforddiant mewn swydd a chyflogaeth â chymorth?

 
5
OQ62485 (e) Tynnwyd yn ôl Wedi’i gyflwyno ar 13/03/2025

Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi pobl sy'n byw mewn cymunedau ger safleoedd tir halogedig yn Nwyrain De Cymru?

 
6
OQ62465 (e) Wedi’i gyflwyno ar 13/03/2025

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella cysylltedd ffyrdd yn Sir Ddinbych?

 
7
OQ62457 (e) Wedi’i gyflwyno ar 13/03/2025

Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o effaith Brexit ar Bontypridd?

 
8
OQ62484 (w) Wedi’i gyflwyno ar 13/03/2025

A fydd Llywodraeth Cymru yn ymateb yn ffurfiol i adroddiad y Comisiwn Cymunedau Cymraeg: Grymuso cymunedau, cryfhau’r Gymraeg, a gyhoeddwyd ym mis Awst 2024?

 
9
OQ62483 (e) Wedi’i gyflwyno ar 13/03/2025

A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am drefniadau goruchwylio cwmnïau sydd ym mherchnogaeth lwyr Llywodraeth Cymru?

 
10
OQ62454 (e) Wedi’i gyflwyno ar 13/03/2025

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi cymunedau y mae cynigion ynni gwynt yn effeithio arnynt ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed?

 
11
OQ62488 (e) Wedi’i gyflwyno ar 13/03/2025

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar wasanaethau gofal llygaid i blant?