Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 11/03/2020 i'w hateb ar 18/03/2020
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Y Gweinidog Addysg
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y gefnogaeth a roddir i bobl ifanc byddar mewn addysg er mwyn gwella eu siawns o gyflogaeth?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y deunyddiau a'r adnoddau sydd ar gael i addysgu hanes Cymru mewn ysgolion?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cyngor a roddir i athrawon am coronafeirws?
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda byrddau arholi am effaith bosibl coronafeirws?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am safonau ysgolion yng Nghymru?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddarparu hyfforddiant parhaus i athrawon sy'n gweithio yng Nghymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y canllawiau diweddaraf ar gyfer ysgolion yng Nghanol De Cymru yng ngoleuni'r achosion o coronafeirws?
A wnaiff y Gweinidog amlinellu'r ffordd y caiff disgyblion o oedran ysgol gorfodol yng Nghwm Cynon eu haddysgu ynghylch pwysigrwydd perthnasau iach?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn dileu rhwystrau rhag mynediad i ddisgyblion anabl mewn ysgolion?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i annog merched i ystyried pob dewis o ran gyrfa?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarpariaeth addysg yng Nghanol De Cymru?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod y system addysg yn arfogi pobl ifanc â sgiliau bywyd angenrheidiol?
Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol
Pa gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei darparu i'r diwydiant twristiaeth i liniaru'r effaith y gallai coronafeirws ei chael yng Nghymru?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ymdrechion Llywodraeth Cymru i hybu masnach gydag Unol Daleithiau America?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi mentrau gefeillio trefi rhyngwladol ledled Cymru?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gryfhau'r cysylltiadau a'r berthynas rhwng Cymru a'r byd?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bolisi Llywodraeth Cymru ar gadwraeth henebion cofrestredig yng Nghymru?
Pa asesiad sydd wedi'i wneud o effaith coronafeirws ar ddigwyddiadau diwylliannol, yn enwedig digwyddiadau Cymraeg fel Eisteddfod yr Urdd?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi twristiaeth yn ne Cymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu hyrwyddo Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro i farchnad ryngwladol?
Pa gysylltiad a fu rhwng y Gweinidog a mewnfuddsoddwyr presennol a sefydledig yng Nghymru er mwyn ymestyn cysylltiadau masnachol yn rhyngwladol?
A wnaiff Llywodraeth Cymru roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ei gwaith i ddiogelu a hyrwyddo'r amgylchedd hanesyddol yng Nghymru?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi twristiaeth yng Ngogledd Cymru?