Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 13/02/2025 i'w hateb ar 18/02/2025
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
Beth yw cynlluniau Llywodraeth Cymru yn y dyfodol ar gyfer hyrwyddo ailddefnyddio deunyddiau o fewn yr economi gylchol?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am dargedau lleihau tlodi plant Llywodraeth Cymru?
Pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i rhoi i'r defnydd o dechnolegau newydd sy'n dod i'r amlwg sy’n cefnogi gosod seilwaith trawsyrru ynni o dan y ddaear?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am economi'r stryd fawr yng Nghymru?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y defnydd o ddeallusrwydd artiffisial yn y sector cyhoeddus a ariennir gan Lywodraeth Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am waith prifddinas-ranbarth Caerdydd?
Pa gamau mae'r Llywodraeth yn eu cymryd i gryfhau'r gwasanaeth iechyd yn Nwyfor Meirionnydd?
Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i leihau costau ynni domestig?
Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo prosiectau ailddefnyddio ac ailgylchu cymunedol?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi dyfodol y sector rheilffyrdd?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i helpu i gyflawni cynnig Cledrau Croesi Caerdydd?
A wnaiff y Prif Weinidog ddarparu diweddariad am y cynlluniau o ran dysgu hanes Cymru mewn ysgolion?
Y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni
Sut y mae'r Cwnsler Cyffredinol yn cysoni gwahanol flaenoriaethau Llywodraeth Cymru i sicrhau bod polisïau'n cael eu cyflawni'n effeithiol?
Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i ddarparu i Lywodraeth Cymru ynghylch ei phwerau i liniaru effaith penderfyniad Llywodraeth y DU i gael gwared ar daliadau tanwydd y gaeaf?
Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynghylch sut y gellir gorfodi cyfreithiau amgylcheddol yn absenoldeb corff llywodraethu amgylcheddol?
A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ba waith paratoi sydd wedi'i wneud gyda Chyngor Cyfraith Cymru ynghylch y posibilrwydd o ddatganoli cyfiawnder ieuenctid a gwasanaethau prawf ieuenctid?
A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol roi diweddariad am ddiwygio tribiwnlysoedd Cymru?
Pa asesiad mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi ei wneud o effeithlonrwydd y drefn cydsyniad deddfwriaethol?
Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi ei wneud o effaith bosibl Bil Oedolion â Salwch Angheuol (Diwedd Oes) San Steffan ar Gymru?