Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 11/01/2023 i'w hateb ar 18/01/2023

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

1
OQ58945 (e) Wedi’i gyflwyno ar 11/01/2023

Sut mae Llywodraeth Cymru'n blaenoriaethu ymyriadau i ddileu tlodi tanwydd o fewn ei chyllideb ddrafft ar gyfer 2023-24?

 
2
OQ58962 (e) Wedi’i gyflwyno ar 11/01/2023

Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda phartneriaid llywodraeth leol am sut y gallant gefnogi trigolion yn ystod yr argyfwng costau byw?

 
3
OQ58963 (w) Wedi’i gyflwyno ar 11/01/2023

Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasnaethau Cymdeithasol ynghylch ariannu awdurdodau lleol i hyrwyddo iechyd y cyhoedd?

 
4
OQ58967 (e) Wedi’i gyflwyno ar 11/01/2023

Sut mae'r Gweinidog yn gweithio gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd i sicrhau bod gan awdurdodau lleol y cyllid sydd ei angen i gyflawni eu hymrwymiadau newid hinsawdd?

 
5
OQ58968 (w) Wedi’i gyflwyno ar 11/01/2023

Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gydag awdurdodau lleol ynghylch y disgwyliad eu bod yn cynnal gwasanaethau cyhoeddus anstatudol yn dilyn cyllideb 2022-23?

 
6
OQ58961 (w) Wedi’i gyflwyno ar 11/01/2023

Pa drafodaethau mae'r Gweinidog wedi ei gael gyda Gweinidogion eraill ynghylch cyllido mesurau iechyd ataliol ar draws y Llywodraeth?

 
7
OQ58952 (e) Wedi’i gyflwyno ar 11/01/2023

Pa asesiad ariannol y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o ddull awdurdodau lleol o fuddsoddi mewn arlwyo ysgolion?

 
8
OQ58953 (w) Wedi’i gyflwyno ar 11/01/2023

Pa drafodaethau mae'r Gweinidog yn eu cael gyda chynghorau yn rhanbarth Canol De Cymru ynglŷn â dyfodol gwasanaethau anstatudol yn sgil yr heriau ariannol y maent yn eu hwynebu?

 
9
OQ58956 (e) Wedi’i gyflwyno ar 11/01/2023

Pa ystyriaeth a roddodd y Gweinidog i gynnal a chadw priffyrdd wrth benderfynu'r setliad awdurdod lleol eleni?

 
10
OQ58939 (e) Wedi’i gyflwyno ar 11/01/2023

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am flaenoriaethau cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24 yn Sir Benfro?

 
11
OQ58942 (e) Wedi’i gyflwyno ar 11/01/2023

A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ar bolisi premiwm treth gyngor Llywodraeth Cymru?

Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd

1
OQ58955 (e) Wedi’i gyflwyno ar 11/01/2023

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wneud Cymru yn gyfeillgar i bryfed peillio?

 
2
OQ58965 (e) Wedi’i gyflwyno ar 11/01/2023

A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ymdrechion i frwydro yn erbyn lledaeniad clefydau mewn da byw yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?

 
3
OQ58943 (e) Wedi’i gyflwyno ar 11/01/2023

Beth mae'r Gweinidog yn ei wneud i helpu i reoli tir comin yn Nwyrain De Cymru?

 
4
OQ58948 (e) Wedi’i gyflwyno ar 11/01/2023

Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd ynghylch defnyddio addasu genetig planhigion ar gyfer atafaelu carbon?

 
5
OQ58964 (e) Wedi’i gyflwyno ar 11/01/2023

Sut mae Llywodraeth Cymru yn annog awdurdodau lleol i wella'r seilwaith gwyrdd trefol yng Ngwent?

 
6
OQ58949 (e) Wedi’i gyflwyno ar 11/01/2023

Pa fesurau mae Llywodraeth Cymru'n ymgymryd â hwy i leihau'r boblogaeth cathbysgod yn sir Ddinbych?

 
7
OQ58966 (w) Wedi’i gyflwyno ar 11/01/2023

Sut fydd y Llywodraeth yn mesur llwyddiant Bill Amaeth (Cymru) 2022?

 
8
OQ58959 (e) Tynnwyd yn ôl Wedi’i gyflwyno ar 11/01/2023

Pa gamau mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i helpu i liniaru effaith costau ynni uchel ar fusnesau ffermwyr?

 
9
OQ58946 (e) Wedi’i gyflwyno ar 11/01/2023

Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer creu sector diwydiant amaethyddol bywiog?

 
10
OQ58941 (e) Wedi’i gyflwyno ar 11/01/2023

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i ddiogelu rhywogaethau bywyd gwyllt sydd o dan fygythiad?

 
11
OQ58969 (w) Wedi’i gyflwyno ar 11/01/2023

Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd am sut y gall amaethwyr gyfrannu at y gwaith o wella effeithlonrwydd ynni yn Arfon?

 
12
OQ58957 (e) Wedi’i gyflwyno ar 11/01/2023

Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o iechyd y diwydiant wyau yng Nghymru?