Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 10/12/2025 i'w hateb ar 17/12/2025

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg

1
OQ63599 (e) Wedi’i gyflwyno ar 10/12/2025

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar sut y mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio buddsoddiad drwy buddsoddi-i-arbed er mwyn gwella cynhyrchiant?

 
2
OQ63595 (e) Wedi’i gyflwyno ar 10/12/2025

Pa ystyriaeth y mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn ei rhoi i sicrhau twf economaidd yng Ngogledd Cymru wrth bennu cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2026–27?

 
3
OQ63608 (e) Wedi’i gyflwyno ar 10/12/2025

Pa drafodaethau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ynglŷn â gwella'r ddarpariaeth addysg Gymraeg yn Nyffryn Clwyd?

 
4
OQ63605 (e) Wedi’i gyflwyno ar 10/12/2025

Sut y mae yr Ysgrifennydd Cabinet yn gweithio gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol i sicrhau bod Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn cael adnoddau digonol?

 
5
OQ63589 (e) Wedi’i gyflwyno ar 10/12/2025

Pa ryddhad ardrethi busnes y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i gefnogi busnesau yn Sir Fynwy?

 
6
OQ63610 (w) Wedi’i gyflwyno ar 10/12/2025

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar ddull Llywodraeth Cymru o ddefnyddio technoleg ddigidol i helpu dysgwyr y Gymraeg i ddefnyddio’r iaith bob dydd?

 
7
OQ63612 (e) Wedi’i gyflwyno ar 10/12/2025

Pa ystyriaeth y mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn ei roi i fuddion trawsbynciol o ran adrannau eraill Llywodraeth Cymru wrth wneud penderfyniadau ar ariannu gwasanaethau cyhoeddus penodol?

 
8
OQ63591 (e) Wedi’i gyflwyno ar 10/12/2025

Pa asesiad mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith cyllideb hydref Llywodraeth y DU ar bobl Sir Benfro?

 
9
OQ63617 (e) Wedi’i gyflwyno ar 10/12/2025

Pa drafodaethau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â'r cyllid Balchder Bro ar gyfer Cymru?

 
10
OQ63600 (e) Wedi’i gyflwyno ar 10/12/2025

Sut y bydd cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod llywodraeth leol a gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu hariannu'n ddigonol?

 
11
OQ63592 (e) Wedi’i gyflwyno ar 10/12/2025

Sut y mae Trysorlys Cymru yn mesur ac yn cofnodi a yw arbedion yn y gyllideb wedi'u gwneud o ganlyniad i bolisïau'r llywodraeth?

 
12
OQ63611 (w) Wedi’i gyflwyno ar 10/12/2025

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddarparu'r wybodaeth ddiweddaraf a'r camau nesaf o ran cynigion Comisiynydd y Gymraeg i ddiwygio'r polisi gorfodi statudol?

Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

1
OQ63594 (e) Wedi’i gyflwyno ar 10/12/2025

Sut mae Llywodraeth Cymru yn gwarchod rhywogaethau dan fygythiad?

 
2
OQ63601 (e) Wedi’i gyflwyno ar 10/12/2025

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad ar strategaeth Llywodraeth Cymru i leihau taflu sbwriel?

 
3
OQ63609 (w) Wedi’i gyflwyno ar 10/12/2025

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar gamau gweithredu Llywodraeth Cymru ar atebion sy'n seiliedig ar natur i fynd i'r afael â llifogydd?

 
4
OQ63596 (e) Wedi’i gyflwyno ar 10/12/2025

Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi mynediad at fyd natur i bobl ledled Cymru?

 
5
OQ63606 (e) Wedi’i gyflwyno ar 10/12/2025

Sut mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn gweithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru i fesur plastig mewn afonydd?

 
6
OQ63618 (e) Wedi’i gyflwyno ar 10/12/2025

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddiogelu'r tir amaethyddol gorau a mwyaf amlbwrpas ar Ynys Môn?

 
7
OQ63614 (e) Wedi’i gyflwyno ar 10/12/2025

Pa gynnydd y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o ran cynyddu'r ffrwythau a llysiau a gaiff eu cynhyrchu yng Nghymru?

 
8
OQ63615 (e) Wedi’i gyflwyno ar 10/12/2025

Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i gynnal o ran cynnal a chadw afonydd a diogelu rhag llifogydd yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?

 
9
OQ63598 (e) Wedi’i gyflwyno ar 10/12/2025

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i atal y gostyngiad mewn niferoedd da byw?

 
10
OQ63590 (e) Wedi’i gyflwyno ar 10/12/2025

Beth yw blaenoriaethau amgylcheddol Llywodraeth Cymru ar gyfer Preseli Sir Benfro?

 
11
OQ63604 (e) Wedi’i gyflwyno ar 10/12/2025

Sut y mae'r Llywodraeth yn cefnogi ffermwyr yn Sir Drefaldwyn?