Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 12/11/2026 i'w hateb ar 17/11/2026
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella sut mae byrddau iechyd yn ymgysylltu â dinasyddion wrth gynllunio newidiadau mawr i wasanaethau?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad o ran cyflawni Adolygiad Covid-19 a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi gwaith adfywio a diogelwch tomenni glo mewn cymunedau yr effeithiwyd arnynt gan orffennol diwydiannol Cymru?
Pa ystyriaeth y mae'r Prif Weinidog wedi'i rhoi i ddiwygio rôl cynghorau tref a chymuned wrth ddyrannu stoc tai awdurdodau lleol?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i amddiffyn y cyhoedd rhag camwybodaeth cyn etholiadau yng Nghymru?
A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu sut mae'r setliad cyllido presennol gan Lywodraeth y DU yn effeithio ar allu Llywodraeth Cymru i ariannu'r sectorau iechyd a llywodraeth leol?
Pa gamau y mae'r Prif Weinidog yn eu cymryd i hyrwyddo rhyddid i lefaru?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o angen Cymru am gapasiti canolfannau data?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r sector logisteg yn Sir Gaerfyrddin?
Pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i rhoi ar gydnabod Diwrnod Ewropeaidd Diogelu Plant rhag Camfanteisio Rhywiol a Cham-drin Rhywiol?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â gofal mewn coridor yng ngogledd Cymru?
Pa sylwadau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u gwneud i Lywodraeth y DU ynglŷn â rhyddhau cronfa'r gwarantwr ar gyfer aelodau o'r cynllun pensiwn gweithwyr glo?