Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 10/11/2021 i'w hateb ar 17/11/2021
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch cynlluniau i gyflwyno ardoll iechyd a gofal cymdeithasol i Gymru o fis Ebrill 2023 ymlaen?
Pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog yn ei rhoi i daclo tlodi wrth ddyrannu cyllid i'r portffolio cyfiawnder cymdeithasol?
Pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog wedi'i rhoi i ddarparu cyllid ychwanegol i bortffolio'r economi i gefnogi twristiaeth?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar gyfrifoldebau'r cyd-bwyllgorau corfforaethol arfaethedig?
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch y pwysau ariannol ar wasanaethau cymdeithasol plant ac oedolion o fewn awdurdodau lleol?
Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o'r trefniadau ar gyfer yr etholiadau lleol flwyddyn nesaf i sicrhau eu bod yn cael eu rhedeg yn effeithiol?
Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei gynnig i awdurdodau lleol i ddarparu gwasanaethau anstatudol?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sefydlu cyd-bwyllgorau corfforaethol mewn llywodraeth leol yng Nghymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyfodol y fformiwla ariannu llywodraeth leol?
Pa amddiffyniadau cyfreithiol sydd ar waith i sicrhau bod cynghorwyr lleol yn gallu siarad yn rhydd mewn cyfarfodydd cyngor?
Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o oblygiadau adolygiad gwariant Llywodraeth y DU ar gyfer cyllidebau buddsoddi cyfalaf Llywodraeth Cymru?
Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith defnyddio plaladdwyr yng Nghymru?
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Gweinidog yr Economi ynghylch buddsoddi mewn isadeiledd yn y Gogledd?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd i leihau effaith tân gwyllt ar les anifeiliaid?
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd ynghylch y rôl y gall ffermwyr ei chwarae wrth fynd i'r afael â newid hinsawdd?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddefnyddio maglau a thrapiau glud yng Nghymru?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r effaith y mae buddsoddwyr yn prynu tir amaethyddol ar gyfer plannu coed i'w ddefnyddio fel credydau carbon yn ei chael ar ffermydd teuluol?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynghylch strategaeth y Llywodraeth i daclo creulondeb at anifeiliaid yng Ngorllewin De Cymru?
Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i ffermwyr sy'n denantiaid ynghylch sicrwydd deiliadaeth?
Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth y DU a chynhyrchwyr i hyrwyddo bwyd a diod o Ddyffryn Clwyd?
Sut y bydd y cynigion yng nghynllun lles anifeiliaid Llywodraeth Cymru yn gwella lles anifeiliaid yng Nghymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar gynlluniau Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael ag effaith tân gwyllt ar les anifeiliaid?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi datblygiad y sector amaethyddol yng Nghanol De Cymru?