Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 10/09/2025 i'w hateb ar 17/09/2025
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet amlinellu ei flaenoriaethau ar gyfer cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2026-27?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar y rhaglen i gyflwyno safonau'r Gymraeg?
Pa drafodaethau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai ynglŷn â sut y gall Llywodraeth Cymru gefnogi awdurdodau lleol drwy'r pwysau chwyddiant presennol?
Pa drafodaethau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn eu cael gyda Llywodraeth y DU ynglŷn ag effaith y newidiadau sydd ar ddod i ryddhad eiddo busnes ar fusnesau teuluol yng Nghymru?
Pa drafodaethau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â TAW ar gynhyrchion amddiffyn rhag yr haul?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar safbwynt Llywodraeth Cymru ar ddyfodol Fformiwla Barnett?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith cyflwyno'r rheol ar gyfer gosodiadau gwyliau hunanarlwyo sy'n ei gwneud yn ofynnol i eiddo gael ei osod am o leiaf 182 diwrnod y flwyddyn i fod yn gymwys ar gyfer ardrethi annomestig yn hytrach na'r dreth gyngor?
Beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud i gefnogi ysgolion cyfrwng Cymraeg newydd yn Nwyrain De Cymru?
Pa drafodaethau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru ynghylch cymhellion cyllidol i annog newid moddol?
Beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud i hyrwyddo defnydd y Gymraeg gan fusnesau preifat?
Sut y mae'r Ysgrifennydd Cabinet yn gweithio gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol i sicrhau bod llywodraeth leol yn cael adnoddau digonol?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar effaith fwriadedig y newidiadau arfaethedig i'r trothwy gosod 182 diwrnod ar gyfer llety gwyliau hunanarlwyo?
Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
Sut mae'r Llywodraeth yn cefnogi ffermwyr yn Nwyrain De Cymru?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar y nifer o ffermydd cyngor yng Nghymru?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i gefnogi ffermwyr ar draws Gorllewin De Cymru?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi ffermwyr a thirfeddianwyr eraill y mae digwyddiadau llifogydd anrhagweladwy yn effeithio arnynt?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer cynllun dychwelyd ernes?
Beth yw blaenoriaethau'r Ysgrifennydd Cabinet ar gyfer iechyd anifeiliaid am weddill y Senedd hon?
Pa drafodaethau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gydag undebau ffermio a rhanddeiliaid ynglŷn â'r cynllun ffermio cynaliadwy?
Pa gymorth mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i'r sector garddwriaethol?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar gymorth Llywodraeth Cymru i weithwyr amaethyddol?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau gwytnwch ar draws y rhwydwaith dŵr yng Nghymru?
Beth yw cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer monitro lefelau halogiad microblastigion yn nyfrffyrdd Cymru?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i leihau achosion o dipio anghyfreithlon yn Nwyrain De Cymru?