Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 10/07/2024 i'w hateb ar 17/07/2024

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet

1
OQ61463 (e) Wedi’i gyflwyno ar 10/07/2024

Beth y mae'r Llywodraeth yn ei wneud i gynyddu cyflog y sector cyhoeddus yn Nwyrain De Cymru?

 
2
OQ61448 (e) Wedi’i gyflwyno ar 10/07/2024

Sut y bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn cydweithio â Llywodraeth y DU er mwyn sicrhau cyllid ychwanegol ar gyfer rheilffyrdd Cymru?

 
3
OQ61453 (e) Wedi’i gyflwyno ar 10/07/2024

Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod digon o ryddhad ardrethi annomestig ar gael i fusnesau bach?

 
4
OQ61480 (e) Wedi’i gyflwyno ar 10/07/2024

Pa asesiad y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o'r effaith y bydd y newid yn Llywodraeth y DU yn ei chael ar amserlen cyllideb Llywodraeth Cymru?

 
5
OQ61455 (e) Wedi’i gyflwyno ar 10/07/2024

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio ei phwerau trethiant er budd cymunedau ledled Cymru?

 
6
OQ61457 (e) Wedi’i gyflwyno ar 10/07/2024

Faint o gyllid ychwanegol y mae yr Ysgrifennydd Cabinet yn disgwyl i Lywodraeth newydd y DU ei ddarparu i Gymru?

 
7
OQ61481 (w) Wedi’i gyflwyno ar 10/07/2024

Pa drafodaethau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gyda Llywodraeth newydd y DU ynglŷn â chyllid teg i Gymru?

 
8
OQ61459 (e) Wedi’i gyflwyno ar 10/07/2024

Pa drafodaethau y mae yr Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ynghylch cyllid ychwanegol i sefydliadau iechyd cymunedol?

 
9
OQ61454 (e) Tynnwyd yn ôl Wedi’i gyflwyno ar 10/07/2024

Pa drafodaethau y mae yr Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gyda Llywodraeth newydd y DU ynghylch pryd y bydd yn darparu cyllid i dalu iawndal i bobl yng Nghymru y mae'r sgandal gwaed heintiedig yn effeithio arnynt?

 
10
OQ61475 (e) Wedi’i gyflwyno ar 10/07/2024

Pa ystyriaeth y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i rhoi i gynyddu’r cyllid ar gyfer diwylliant yng nghyllideb atodol Llywodraeth Cymru?

 
11
OQ61474 (w) Wedi’i gyflwyno ar 10/07/2024

Pa drafodaethau y mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio ynglŷn â chynyddu’r dyraniadau cyllidebol ar gyfer taclo’r argyfwng tai?

 
12
OQ61450 (e) Wedi’i gyflwyno ar 10/07/2024

Pa drafodaethau y mae yr Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cael gyda'r Canghellor ynghylch dyfodol cyllid i Gymru?

Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

1
OQ61471 (e) Wedi’i gyflwyno ar 10/07/2024

Sut bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn gweithio gyda Llywodraeth newydd y DU i wella ansawdd dŵr afonydd yng Nghymru?

 
2
OQ61466 (e) Wedi’i gyflwyno ar 10/07/2024

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda phartneriaid Llywodraeth y DU i gefnogi'r diwydiant cwrw a thafarndai?

 
3
OQ61479 (e) Wedi’i gyflwyno ar 10/07/2024

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i hyrwyddo mynediad diogel i ddyfrffyrdd?

 
4
OQ61477 (e) Wedi’i gyflwyno ar 10/07/2024

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â thipio anghyfreithlon?

 
5
OQ61461 (e) Wedi’i gyflwyno ar 10/07/2024

Pa gamau y bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn eu cymryd i annog gweithredu cymunedol dros natur?

 
6
OQ61472 (w) Wedi’i gyflwyno ar 10/07/2024

Pa asesiad mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi'i wneud o lwyddiant polisïau Llywodraeth Cymru i ddatblygu cadwyni cyflenwi bwyd lleol?

 
7
OQ61476 (e) Tynnwyd yn ôl Wedi’i gyflwyno ar 10/07/2024

Beth yw blaenoriaethau'r Ysgrifennydd Cabinet ar gyfer mynd i'r afael â chŵn peryglus?

 
8
OQ61462 (e) Wedi’i gyflwyno ar 10/07/2024

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar gynlluniau'r Llywodraeth i hyrwyddo perchnogaeth gyfrifol ar gŵn?

 
9
OQ61456 (e) Wedi’i gyflwyno ar 10/07/2024

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet amlinellu unrhyw drafodaethau sydd wedi digwydd gyda'r Ysgrifennydd Gwladol newydd dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig ers eu penodi?

 
10
OQ61460 (e) Wedi’i gyflwyno ar 10/07/2024

Beth yw strategaeth yr Ysgrifennydd Cabinet ar gyfer ymdrin â gwastraff gwenwynig sydd wedi'i gladdu mewn safleoedd tirlenwi ledled Cymru?

 
11
OQ61470 (d) Wedi’i gyflwyno ar 10/07/2024

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi awdurdodau lleol yng Ngorllewin De Cymru i gyrraedd targedau sero net?

 
12
OQ61446 (e) Wedi’i gyflwyno ar 10/07/2024

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi ffermwyr yng Nghymru?