Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 12/06/2025 i'w hateb ar 17/06/2025

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Prif Weinidog

1
OQ62876 (e) Wedi’i gyflwyno ar 12/06/2025

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi ffermio yng nghanolbarth Cymru?

 
2
OQ62882 (w) Wedi’i gyflwyno ar 12/06/2025

Pryd fydd y Llywodraeth yn rhoi’r darpariaethau yn Neddf Seilwaith (Cymru) 2024 ar waith mewn perthynas â phrosiectau trydan, gan gynnwys seilwaith trosglwyddo a dosbarthu?

 
3
OQ62888 (e) Wedi’i gyflwyno ar 12/06/2025

Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o’r effaith y mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 wedi'i chael ar lesiant pobl yng Nghymru?

 
4
OQ62893 (w) Wedi’i gyflwyno ar 12/06/2025

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar ariannu gofal cymdeithasol?

 
5
OQ62854 (e) Wedi’i gyflwyno ar 12/06/2025

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynnydd Llywodraeth Cymru o ran mynd i'r afael â ffioedd rheoli ystadau?

 
6
OQ62890 (e) Wedi’i gyflwyno ar 12/06/2025

Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gynyddu prentisiaethau yn Nwyrain De Cymru?

 
7
OQ62887 (w) Wedi’i gyflwyno ar 12/06/2025

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi pobl ifanc sydd wedi cael diagnosis o glefyd niwronau motor?

 
8
OQ62875 (e) Wedi’i gyflwyno ar 12/06/2025

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i leihau tlodi plant?

 
9
OQ62872 (e) Wedi’i gyflwyno ar 12/06/2025

Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi teuluoedd sy'n gweithio gyda chostau byw?

 
10
OQ62885 (e) Wedi’i gyflwyno ar 12/06/2025

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru i ddatblygu Metro De Cymru ymhellach?

 
11
OQ62892 (e) Wedi’i gyflwyno ar 12/06/2025

Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o’r gyfran o gyllid rheilffyrdd Llywodraeth y DU sydd wedi'i ddyrannu i Gymru dros gyfnod yr adolygiad o wariant a gyhoeddwyd yn ddiweddar?

 
12
OQ62889 (w) Wedi’i gyflwyno ar 12/06/2025

A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad am y trafodaethau rhwng Llywodraeth Cymru a Phrifysgol Bangor ynglŷn â sefyllfa ariannol y brifysgol?

Y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni

1
OQ62864 (w) Wedi’i gyflwyno ar 10/06/2025

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar apêl Llywodraeth Cymru i'r Goruchaf Lys ynghylch cynllun datblygu lleol Wrecsam?

 
2
OQ62861 (w) Wedi’i gyflwyno ar 10/06/2025

Pa drafodaethau mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi eu cael gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â Chonfensiwn Sewel?

 
3
OQ62868 (e) Wedi’i gyflwyno ar 10/06/2025

Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynglŷn â defnyddio deallusrwydd artiffisial yn ei gwaith?

 
4
OQ62856 (e) Wedi’i gyflwyno ar 10/06/2025

Pa gynnydd y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud wrth herio Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020?

 
5
OQ62855 (e) Wedi’i gyflwyno ar 10/06/2025

Pa gamau y mae'r Cwnsler Cyffredinol yn eu cymryd i wella mynediad at gyfiawnder yng Nghymru?

 
6
OQ62870 (e) Wedi’i gyflwyno ar 10/06/2025

Pa gyngor y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i'r Llywodraeth am statws cyfreithiol fformiwla Barnett mewn perthynas â'r rheilffordd rhwng Rhydychen a Chaergrawnt sy’n werth £6.6 biliwn?

 
7
OQ62862 (e) Wedi’i gyflwyno ar 10/06/2025

Sut y mae'r Cwnsler Cyffredinol yn gweithio gyda chydweithwyr yn y Cabinet i sicrhau bod blaenoriaethau'r Llywodraeth yn cael eu cyflawni yng Nghanol De Cymru?