Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 10/05/2023 i'w hateb ar 17/05/2023
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol am sicrhau mynediad cyfartal at doiledau cyhoeddus i bobl anabl?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn a ddysgwyd hyd yma o'r cynllun peilot incwm sylfaenol ar gyfer pobl sy'n gadael gofal?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gymorth Llywodraeth Cymru ar gyfer banciau bwyd?
Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru o ran mynd i'r afael ag allgáu ariannol?
Pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i leihau tlodi plant yng Nghanol De Cymru?
Pa ystyriaeth mae'r Gweinidog wedi ei rhoi i effaith wythnos waith pedwar diwrnod ar economi Cymru?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am greu'r ganolfan breswyl gyntaf i fenywod yng Nghymru ar gyfer menywod sy'n ymwneud â'r system cyfiawnder troseddol?
Pa gamau mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i fynd i'r afael â thlodi plant ym Mlaenau Gwent?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ei sgyrsiau gyda Phlaid Cymru am y Cytundeb Cydweithio?
Pa asesiad mae'r Gweinidog wedi ei wneud o effaith byw mewn llety dros dro ar dlodi plant?
Pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru'n ei rhoi i weithio gyda mudiadau gwirfoddol ac awdurdodau lleol i gefnogi peilot ar gyfer aml-fanc ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac Ogwr fel ymateb ymarferol i dlodi cartrefi unigol?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau Llywodraeth Cymru i wella diogelwch menywod?
Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad
Pa drafodaethau mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cynnal gyda Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol yn dilyn penderfyniad y Senedd ar 25 Ebrill 2023 yn atal ei chydsyniad ar gyfer y Bil Streiciau (Lefelau Gwasanaeth Gofynnol)?
Pa ystyriaeth y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi ei rhoi i ddatblygu rôl Fforwm Rhyng-Seneddol y DU o ran craffu ar faterion deddfwriaethol a chyfansoddiadol a'u goruchwylio?
A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol amlinellu'r costau i Lywodraeth Cymru o ddarparu diwygio'r Senedd?
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i atal lledaenu twyllwybodaeth yn ystod etholiadau Cymru?
Pa gyngor mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ynglŷn â sicrhau bod y rheoliadau a wneir o dan Fil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru) yn gydnaws â Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020?
Pa drafodaethau mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda swyddogion y gyfraith ynglŷn â gweithredu Deddf Trefn Gyhoeddus 2023?
Pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog wedi ei rhoi i gynrychiolaeth Cymru ar gyngor partneriaeth y cytundeb masnach a chydweithredu?
Pa drafodaethau mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda swyddogion y gyfraith ynglŷn ag ymgyrch cyfraith Hillsborough?
Comisiwn y Senedd
Pa gamau mae'r Comisiwn yn eu cymryd i hyrwyddo Senedd Cymru i'r byd?
A wnaiff y Comisiwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gefnogaeth y mae'n ei ddarparu i staff y Comisiwn a staff yr Aelodau sy'n profi aflonyddu?
Pa waith allgymorth y mae'r Comisiwn yn ei wneud i hyrwyddo gwaith y Senedd ledled Cymru?
Sut mae'r Comisiwn yn cefnogi ysgolion mewn ardaloedd difreintiedig i ymweld â'r Senedd?
Pa drafodaethau gafodd y Comisiwn ynglŷn â chynrychiolaeth y Senedd yng nghoroni Brenin Charles III?
A wnaiff y Comisiwn ystyried treial o ddarparu dyddiau gwyliau blynyddol ychwanegol i'r gweithwyr hynny sy'n teithio dramor ar eu gwyliau drwy ddulliau heblaw am hedfan, fel ar drenau a coetsys, i helpu i fynd i'r afael â newid hinsawdd?