Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 12/05/2022 i'w hateb ar 17/05/2022
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
Sut mae Llywodraeth Cymru'n cefnogi aelwydydd sy'n wynebu costau ynni cynyddol?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith y mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i wella gwasanaethau iechyd ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gefnogaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus yn etholaeth Caerffili?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd i wella gwasanaethau diogelu plant yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro?
A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu'r camau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i fynd i'r afael ag unigrwydd yng Nghymru?
Pa ddadansoddiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effeithiolrwydd cyfluniad presennol gwasanaethau ysbytai yn Nwyrain De Cymru?
Beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud i wella effeithlonrwydd ynni mewn cartrefi yn Nwyrain De Cymru?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i sicrhau bod gwasanaethau bws yn cysylltu cymunedau ynysig yn etholaeth Ogwr?
A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad am gynlluniau i wella cyfleusterau iechyd, gofal a lles yn Arfon?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr effaith y mae'r argyfwng costau byw yn ei chael ar drigolion yn Rhondda?
Pa ddadansoddiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud ynghylch a yw lefelau staffio diogel yn cael eu cynnal yn y gwasanaeth iechyd yng Ngogledd Cymru?
Pa gamau y mae'r Llywodraeth yn eu cymryd i ddiogelu uniondeb a diogelwch chwaraeon menywod o ran hunaniaeth rhywedd?