Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 10/04/2024 i'w hateb ar 17/04/2024
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet
Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch cyllid teg i Gymru?
Pa asesiad diweddar y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud o effaith yr ardoll ymwelwyr ar fusnesau Cymru?
Pa effaith y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn disgwyl y bydd y Bil Cyllid Llywodraeth Leol (Cymru) yn ei chael ar y rhai sy'n talu'r dreth gyngor?
Pa sylwadau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u gwneud i Lywodraeth y DU ynghylch darparu llinellau cymorth hunanasesiadau, TAW a'r cynllun Talu Wrth Ennill ar gyfer aelodau'r cyhoedd?
Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cael gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio ynghylch sicrhau bod cyllid ar gael i gefnogi awdurdodau lleol i gynnal cyfleusterau toiledau cyhoeddus?
Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cael gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ynghylch ariannu lefel briodol o gyflog yn y gwasanaethau iechyd a gofal?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar ddyfodol swyddfeydd Llywodraeth Cymru yn Arfon?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr ardoll ymwelwyr?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau i gyflwyno treth ar dir gwag yng Nghymru?
Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud o effeithiolrwydd gwariant adrannol Llywodraeth Cymru?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am fuddsoddi i arbed?
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y trafodaethau diweddaraf y mae wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch cyllid Llywodraeth y DU ar gyfer cyllidebau Llywodraeth Cymru?
Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
Sut mae'r Llywodraeth yn sicrhau bod cynlluniau adfer glofeydd brig yn diogelu cymunedau yng Ngorllewin De Cymru?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am effaith y rheoliadau ailgylchu yn y gweithle newydd a ddaeth i rym yng Nghymru ar 6 Ebrill 2024?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu beth fydd ei flaenoriaethau ar gyfer cyflawni sero net a phontio teg?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu ei gynlluniau ar gyfer mynd i'r afael â llygredd mewn afonydd?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu ei gynlluniau ar gyfer cefnogi amaethwyr ar Ynys Môn?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gynigion Llywodraeth Cymru i wella lles anifeiliaid?
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i ddiogelu bioamrywiaeth?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet nodi'r camau nesaf ar gyfer datblygu strategaeth ddiwydiannol ar gyfer pren?
Pa asesiad mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud o'r goblygiadau i Gymru yn dilyn y diffygdalu benthyciad diweddar a nodwyd gan Thames Water?
Sut y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn bwriadu gweithio gyda chyrff cyhoeddus perthnasol i amddiffyn cymunedau yn Alun a Glannau Dyfrdwy rhag llifogydd?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o berfformiad Dŵr Cymru wrth gyfyngu gollyngiadau carthion yn Islwyn?
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y llifogydd diweddar ym Mae Cinmel?