Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 12/03/2026 i'w hateb ar 17/03/2026

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.

Prif Weinidog

1
OQ64024 (e) Wedi’i gyflwyno ar 12/03/2026

A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu strategaeth y Llywodraeth ar gyfer datblygiadau canolfannau data?

 
2
OQ64008 (w) Wedi’i gyflwyno ar 12/03/2026

Pa ystyriaeth mae'r Prif Weinidog wedi ei rhoi i pa un ai ydy'r gefnogaeth mae'r Llywodraeth yn ei darparu i fusnesau canol tref yn effeithiol?

 
3
OQ63985 (e) Wedi’i gyflwyno ar 12/03/2026

Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gydag Undeb Rygbi Cymru ynglŷn â'u bwriad i ad-drefnu rygbi rhanbarthol?

 
4
OQ63995 (e) Wedi’i gyflwyno ar 12/03/2026

Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i wella parcio yn Ysbyty Maelor Wrecsam?

 
5
OQ64017 (e) Wedi’i gyflwyno ar 12/03/2026

Pa flaenoriaethau mae'r Prif Weinidog yn eu gosod i gefnogi canlyniadau iechyd gwell yn Nwyrain De Cymru?

 
6
OQ64019 (e) Wedi’i gyflwyno ar 12/03/2026

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar ddarparu gwasanaethau deintyddol yng Nghaerffili?

 
7
OQ64009 (e) Wedi’i gyflwyno ar 12/03/2026

Pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i leihau tipio anghyfreithlon a thaflu sbwriel yng ngogledd Cymru?

 
8
OQ64020 (e) Wedi’i gyflwyno ar 12/03/2026

Pa asesiad mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o berfformiad Dŵr Cymru wrth wasanaethu pobl Islwyn?

 
9
OQ63996 (e) Wedi’i gyflwyno ar 12/03/2026

Sut bydd y contract deintyddol newydd yn gwella mynediad i ddeintyddiaeth y GIG yng nghanolbarth Cymru?

 
10
OQ64000 (e) Wedi’i gyflwyno ar 12/03/2026

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar roi terfyn ar ofal mewn coridorau ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr?

 
11
OQ63997 (e) Wedi’i gyflwyno ar 12/03/2026

Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi gwasanaethau blynyddoedd cynnar ar gyfer y teuluoedd anoddaf eu cyrraedd a'r teuluoedd sydd fwyaf agored i niwed?

 
12
OQ64004 (w) Wedi’i gyflwyno ar 12/03/2026

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar wasanaethau gynecolegol ar gyfer trigolion Dwyfor Meirionnydd?