Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 10/03/2021 i'w hateb ar 17/03/2021
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyllid ychwanegol a ddyranwyd i'r portffolio addysg i gefnogi rhaglen ysgolion yr 21ain ganrif yn Rhondda Cynon Taf?
Beth yw goblygiadau cyllideb derfynol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-22 i Orllewin Casnewydd?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddiddymu'n raddol band cyfradd sero y dreth trafodion tir ar drafodion eiddo preswyl hyd at £250,000?
Pa ystyriaeth a roddodd y Gweinidog i'r sector gwasanaethau ariannol yng Nghymru wrth ddyrannu cyllideb derfynol 2021-22?
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru ynghylch dyraniadau cyllideb ychwanegol yn 2021-22 i wella trafnidiaeth yng Nghymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am flaenoriaethau cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-2022 yn Sir Benfro?
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cynnal gyda Llywodraeth y DU ynghylch y gronfa lefelu?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o gyllideb Llywodraeth y DU ar gyfer 2021 ac effaith debygol ei symiau canlyniadol Barnett ar etholaeth Caerffili?
A wnaiff y Gweinidog gadarnhau faint y mae Llywodraeth Cymru wedi'i godi mewn refeniw ers 2016 drwy ardrethi annomestig?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am newidiadau i bolisi trethiant Llywodraeth Cymru i gefnogi busnesau yn sgil pandemig COVID-19?
Pa gamau y mae'r Gweinidog yn eu cymryd i fonitro'r asesiadau a gynhelir gan gyd-Weinidogion wrth ddyrannu gwariant o fewn eu portffolios?
Pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog yn ei rhoi i iechyd meddwl wrth ddyrannu cyllid i'r portffolio iechyd meddwl, llesiant a'r Gymraeg?
Y Gweinidog Addysg
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi llesiant meddyliol athrawon?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am wasanaethau cyfrwng Cymraeg i lywodraethwyr ysgol yng Nghymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei gwneud yn orfodol i blant ysgol wisgo masgiau?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gymorth i athrawon yn Sir Benfro yn ystod pandemig COVID-19?
Beth mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud i fuddsoddi mewn seilwaith ffisegol ysgolion yn Islwyn?
Pa gamau y bydd y Gweinidog yn eu cymryd i hyrwyddo llesiant disgyblion yn y cynlluniau dychwelyd i'r ysgol?
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella safonau ysgolion yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyflogi athrawon cyflenwi yng Nghymru?
A wnaiff y Gweinidog amlinellu effaith diwygiadau cyllid myfyrwyr Llywodraeth Cymru ar addysg uwch ran-amser?
Pa fuddsoddiad sydd wedi'i wneud mewn ysgolion a cholegau yn Ogwr ers 2016?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am addysgu hanes Cymru mewn ysgolion?
Pa gymorth y bydd y Gweinidog yn ei roi i ddisgyblion y mae angen iddynt ddal i fyny ar waith ysgol yn sgil pandemig COVID-19?
Comisiwn y Senedd
A wnaiff y Comisiwn ddatganiad am y defnydd o Iaith Arwyddion Prydain gan Senedd Cymru?
Pa gamau sy'n cael eu cymryd i hyrwyddo pleidleisio ymysg pobl ifanc cyn etholiadau'r Senedd?
Pa asesiad y mae'r Comisiwn wedi'i wneud o'i ymateb i bandemig parhaus y coronafeirws?
Pa ystyriaeth y mae'r Comisiwn wedi'i rhoi i wella gweithio hyblyg a rhannu swyddi?