Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 12/03/2020 i'w hateb ar 17/03/2020
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am recriwtio i'r GIG yng Nghymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am weledigaeth strategol Llywodraeth Cymru ar gyfer datblygu economaidd ym Mlaenau'r Cymoedd?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau diagnosis cynnar o ganser yng Nghymru?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith y coronafeirws yng Nghymru?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn rhoi cymorth i bobl â chyflyrau niwro-amrywiol yng Nghymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ymdrechion Llywodraeth Cymru i gadw coed iach yng Ngorllewin Caerdydd?
A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella safonau lles ar gyfer cŵn yn Islwyn?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gyflwyno trethi newydd yng Nghymru?
Pa fesurau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i leihau nifer y damweiniau ar yr M4 o amgylch Casnewydd?
Sut y mae'r Prif Weinidog yn sicrhau bod gwasanaethau a ariennir gan Lywodraeth Cymru yn hyrwyddo cymunedau caredicach?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd i gau'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau yng Nghymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddarpariaeth gofal dwys yng Nghymru?