Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 10/01/2024 i'w hateb ar 17/01/2024
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Y Gweinidog Newid Hinsawdd
Pa gynnydd y mae'r Gweinidog wedi'i wneud wrth weithio gydag awdurdodau lleol i fanteisio i'r eithaf ar gyfleoedd i ddatgarboneiddio cartrefi?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau i wella gorsaf drenau Rhiwabon?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr adolygiad diweddaraf o'r Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru)?
Pa waith y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud i sicrhau tai digonol a rhent teg i bobl Pen-y-bont ar Ogwr a Phorthcawl?
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gyflwyno gwaith ôl-osod mewn tai cymdeithasol?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella ansawdd dŵr ym Mhreseli Sir Benfro?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gynyddu argaeledd tai cymdeithasol yng Nghwm Cynon?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am wasanaethau bws Traws Cymru?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi preswylwyr yr effeithir arnynt gan lifogydd yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro?
Pa gymorth sydd ar gael i bobl ym Mlaenau Gwent a allai fod yn cael trafferth gyda chostau ynni y gaeaf hwn i wella effeithlonrwydd ynni eu cartrefi?
Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o'r potensial ar gyfer ynni adnewyddadwy a gynhyrchir yn lleol ac sy'n eiddo i'r gymuned yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?
Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus yng Ngorllewin De Cymru?
Gweinidog y Gymraeg ac Addysg
Pa gamau y mae'r Gweinidog yn eu cymryd i gefnogi myfyrwyr ysgol ag anghenion dysgu ychwanegol?
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi cynorthwywyr addysgu mewn ysgolion?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi plant ysgol i gymryd rhan yn y celfyddydau creadigol?
Pa gamau y mae'r Gweinidog yn eu cymryd i sicrhau nad yw'r toriadau addysg a nodir yng nghyllideb ddrafft y Llywodraeth yn effeithio'n anghymesur ar y plant mwyaf agored i niwed?
Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o'r effaith y bydd toriadau i gyllidebau llywodraeth leol yn ei chael ar addysg?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gymorth ariannol i fyfyrwyr addysg uwch ac addysg bellach yn y dyfodol?
Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o'r pwysau ariannol sy'n wynebu ysgolion yn y flwyddyn i ddod?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau ar gyfer newidiadau i wyliau ysgol yng Nghymru?
Sut mae'r Llywodraeth yn cefnogi dysgwyr ôl-16 sydd ag anableddau dysgu?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag ysgolion i fynd i'r afael â bwlio?
Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024-25 ar addysg?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol i fynd i'r afael ag anfantais gymdeithasol ac economaidd mewn ysgolion yn Ogwr?