Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 12/01/2023 i'w hateb ar 17/01/2023
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi prosiectau ynni adnewyddadwy yn y môr Celtaidd?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr effaith bydd trosglwyddo i drefn newydd y DU ar gyfer rheoli cymhorthdaliadau yn ei chael ar Gymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddarparu ysbyty cymunedol gogledd sir Ddinbych?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gefnogaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer Dechrau'n Deg?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ymdrechion i fynd i’r afael â thlodi gwledig yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?
Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer gofal sylfaenol yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fynediad at feddygfeydd yn Nwyrain De Cymru?
Sut mae Llywodraeth Cymru'n mynd i'r afael â thlodi digidol?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am restrau aros y GIG yng Ngorllewin De Cymru?
Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i wella gwasanaethau bws yn ne-ddwyrain Cymru?
Pa asesiad mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith costau byw ar ffyniant teuluoedd?
Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer dileu tlodi plant yng Nghwm Cynon?