Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 11/12/2025 i'w hateb ar 16/12/2025
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi teuluoedd mabwysiadol?
Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â'r Bil Hawliau Cyflogaeth?
A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad ar ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wella diogelwch ar y ffyrdd ar yr A55 yn Nelyn?
Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi eu cael gydag Ysgrifennydd Gwladol Cymru am sut y gall Swyddfa Cymru hyrwyddo statws y Gymraeg yng Nghaerdydd?
Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo gwaith cymunedau ffydd yng Nghymru?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar ddarpariaeth gofal cymdeithasol i bobl ag anableddau cymhleth?
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn annog defnyddio'r Gymraeg mewn bywyd cyhoeddus?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r pwysau ariannol sy'n wynebu tafarndai ar hyn o bryd?
A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad ar waith uned cyflenwi Burns?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar gyllid ar gyfer gofal cymdeithasol?
A wnaiff y Prif Weinidog ddarparu diweddariad am y gwaith o ddiogelu adeiladau yng Nghymru yn dilyn trasiedi tân Grenfell wyth mlynedd yn ôl?
Pa drafodaethau diweddar y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda chynrychiolwyr Cyngor Wrecsam ynglŷn â'i gynllun datblygu lleol?