Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 09/12/2020 i'w hateb ar 16/12/2020
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig
Pa ddadansoddiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud yn ystod tymor y Senedd hon o sut mae'r Cod ar yr Arfer Orau wrth Ddefnyddio Maglau i Reoli Cadnoid wedi gweithio?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am lifogydd yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?
Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud ynglŷn â'r cynnydd yn nifer y cŵn bach a gaiff eu gwerthu yn ystod pandemig COVID-19?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer yr amgylchedd yn Nhorfaen ar gyfer gweddill tymor y Senedd hon?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effaith COVID-19 ar les anifeiliaid yng Nghymru?
Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith COVID-19 ar yr economi wledig hyd yma?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn cynllunio ar gyfer adferiad gwyrdd?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â thipio anghyfreithlon mewn lleoliadau gwledig anghysbell yn Islwyn?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i atal halogi tir yn Nwyrain De Cymru?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith tymhorau byrrach a phrisiau trwydded uwch ar bysgotwyr rhwydi sân lleol?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gwympo coed gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer cymorth llifogydd yng Nghaerffili?
Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am reoleiddio gosodiadau gwyliau tymor byr?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gefnogaeth i gyn-filwyr yng Nghymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am weithredu'r fframwaith datblygu cenedlaethol yng nghanolbarth Cymru?
Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o'r rôl y gall Llywodraeth Cymru ei chwarae o ran gwella ymgysylltiad y cyhoedd â gwleidyddiaeth leol?
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi atebion tai arloesol yng Nghymru?
Beth yw blaenoriaethau tai Llywodraeth Cymru ar gyfer Preseli Sir Benfro?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cyflenwad o gartrefi newydd yng Nghymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am rôl awdurdodau lleol o ran ymateb i COVID-19 yng Nghymru?
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gynyddu'r cyflenwad o dai cymdeithasol a fforddiadwy ar draws cymunedau Islwyn?
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi adeiladwyr lleol bach a chanolig i fod yn rhan o'r cynnydd yn nifer y tai a gaiff eu hadeiladu yng Nghymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am adeiladu tai yn Nwyrain De Cymru?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i ganol trefi yn ystod pandemig y coronafeirws?