Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 09/11/2022 i'w hateb ar 16/11/2022
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Gweinidog yr Economi
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar effaith economaidd cau bont Borth?
Sut fydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi datblygu technoleg uwch yn y sector amddiffyn yng ngogledd Cymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyhoeddiad Rolls-Royce ynghylch safleoedd atomfeydd niwclear newydd a pherthynas hyn â chwmni Egino?
Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cynnal gyda Llywodraeth y DU parthed perthnasedd y gronfa ffyniant gyffredin i awdurdodau lleol yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithredu i sicrhau hawliau gweithwyr sy’n gweithio yn yr economi nos?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am strategaeth y Llywodraeth ar gyfer gwella canlyniadau'r farchnad lafur i fenywod?
Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog yn eu cael gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd ar hyrwyddo manteision economaidd cynhyrchu ynni ar y môr yng ngogledd Cymru?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith ei gweledigaeth strategol a rennir ar gyfer y sector manwerthu?
Pa gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei darparu i helpu pobl i gael gyrfaoedd yn y sector cyhoeddus?
Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o'r gostyngiad yn nifer y teithwyr ym Maes Awyr Caerdydd?
Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o'r effaith ar yr economi leol ac economi Cymru sy'n deillio o weithfeydd gweithgynhyrchu Technoleg Sony UK sydd wedi'u lleoli ym Mhencoed?
Pa gefnogaeth y mae'r Llywodraeth yn ei darparu ar gyfer busnesau yn Nwyrain De Cymru sy'n dal i deimlo effeithiau pandemig COVID?
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Pa asesiad diweddar y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o'r gwasanaeth ysbyty i'r cartref a ddarperir drwy'r bartneriaeth rhwng Gofal a Thrwsio Sir Pen-y-bont ar Ogwr ac Ysbyty Tywysoges Cymru?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am amseroedd aros ambiwlansys yn Nwyrain De Cymru?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am argaeledd profion calprotectin ysgarthion mewn lleoliadau gofal sylfaenol yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am amseroedd ymateb ambiwlans ym Mlaenau Gwent?
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i dorri amseroedd aros ambiwlansys?
Sut mae Llywodraeth Cymru'n sicrhau bod pobl sy'n byw yng nghanolbarth Cymru'n cael mynediad digonol at wasanaethau'r GIG?
Pa gamau y mae'r Gweinidog yn eu cymryd i wella iechyd y cyhoedd yng Ngorllewin De Cymru?
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar ddarparu gwasanaethau iechyd yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda?
Sut mae Llywodraeth Cymru'n gweithio i amddiffyn plant sy'n cael eu geni â phroblemau difrifol ar y galon?
A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith sy'n cael ei wneud i wella'r ddarpariaeth o wasanaethau mamolaeth yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg?
Pa gefnogaeth sydd ar gael i ferched yn Arfon sy'n profi problemau iechyd meddwl sy'n gysylltiedig â mamolaeth?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o lefelau staffio'r GIG yng ngogledd Cymru?