Cwestiynau Llafar a gyflwynwyd ar 11/11/2021 i'w hateb ar 16/11/2021
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl cwestiwn 2.Prif Weinidog
Pa effaith y mae Llywodraeth Cymru yn rhagweld y bydd COP26 yn ei chael ar Gymru yn cyrraedd sero net?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith y gost gynyddol o fyw ar bobl yng Nghymru?
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o ganran gweithlu Cymru sy'n ennill cyflog byw go iawn neu'n uwch na hynny?
Beth yw asesiad y Prif Weinidog o effaith COP26 ar Gymru?
Sut mae Llywodraeth Cymru yn annog twf yn y defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus yn Nwyrain De Cymru?
Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o reolaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr?
Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Gweinidogion Llywodraeth y DU ynghylch y gronfa adnewyddu cymunedol?
Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi rhieni newyddenedigol?
Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer ymateb i'r argyfwng hinsawdd?
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar annibyniaeth y broses o oruchwylio y Cod Gweinidogol yng Nghymru?
A wnaiff y Prif Weinidog wneud datganiad ar yr oedi wrth drosglwyddo gofal yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda?
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am adolygiad Llywodraeth Cymru o ffyrdd a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2021?